Départements Ffrainc

(Ailgyfeiriad o Département)

Mae départements Ffrainc (Ffrangeg: Départements de France Llydaweg: Departamantoù gall, Basgeg: Frantziako departmenduak) yn ardaloedd gweinyddol yn Ffrainc a grëwyd yn 1790 ar ôl y Chwyldro Ffrengig. Defnyddir y term i gyfeirio at israniadau nifer o gyn-wladfeydd Ffrainc yn ogystal. Mae'r ardaloedd yn wleidyddol yn cyfateb yn fras i'r siroedd ym Mhrydain. Mae 101 département Ffrainc wedi eu grwpio yn 13 région (rhanbarth) y Ffrainc Fetropolitan a 5 rhanbarth tramor. Mae gan bob département statws cyfreithiol fel rhannau annatod o Ffrainc. Is-rennir y rhanbarthau yn ogystal yn 342 arrondissement (bwrdeistref).

Départements Ffrainc
Enghraifft o'r canlynolmath o adran weinyddol Ffrainc, math o endid cyfreithiol yn Ffrainc, ffurf gyfreithiol Edit this on Wikidata
Mathawdurdod lleol yn Ffrainc, is-adran weinyddol gwlad ail lefel, is-adran weinyddol gwlad ail lefel, is raniad (lefel 3) o sir, o ran gweinyddiaeth, etholaeth, department, NUTS 3 statistical territorial entity Edit this on Wikidata
Rhan orhanbarthau Ffrainc, lefel 3 o gategorïau cyfreithiol yn Ffrainc Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu4 Mawrth 1790 Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscanton of France Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhestr départements Ffrainc

golygu

 

Cod INSEE Arfbais Département Préfecture
01   Ain Bourg-en-Bresse
02   Aisne Laon
03   Allier Moulins
04   Alpes-de-Haute-Provence Digne-les-Bains
05   Hautes-Alpes Gap
06   Alpes-Maritimes Nice
07   Ardèche Privas
08   Ardennes Charleville-Mézières
09   Ariège Foix
10   Aube Troyes
11   Aude Carcassonne
12   Aveyron Rodez
13   Bouches-du-Rhône Marseille
14   Calvados Caen
15   Cantal Aurillac
16   Charente Angoulême
17   Charente-Maritime La Rochelle
18   Cher Bourges
19   Corrèze Tulle
2A   Corse-du-Sud (Corseg: Corsica suttana)8 Ajaccio
2B   Haute-Corse (Corseg: Cismonte)8 Bastia
21   Côte-d'Or Dijon
22   Côtes-d'Armor (Llydaweg: Aodoù-an-Arvor) Sant-Brieg
23   Creuse Guéret
24   Dordogne Périgueux
25   Doubs Besançon
26   Drôme Valence
27   Eure Évreux
28   Eure-et-Loir Chartres
29   Finistère (Llydaweg: Penn-ar-Bed) Quimper
30   Gard Nîmes
31   Haute-Garonne Toulouse
32   Gers Auch
33   Gironde Bordeaux
34   Hérault Montpellier
35   Ille-et-Vilaine (Llydaweg: Il-ha-Gwilen) Rennes
36   Indre Châteauroux
37   Indre-et-Loire Tours
38   Isère Grenoble
39   Jura Lons-le-Saunier
40   Landes Mont-de-Marsan
41   Loir-et-Cher Blois
42   Loire Saint-Étienne
43   Haute-Loire Le Puy-en-Velay
44   Loire-Atlantique (Llydaweg: Liger-Atlantel) Nantes
45   Loiret Orléans
46   Lot Cahors
47   Lot-et-Garonne Agen
48   Lozère Mende
49   Maine-et-Loire Angers
50   Manche Saint-Lô
51   Marne Châlons-en-Champagne
52   Haute-Marne Chaumont
53   Mayenne Laval
54   Meurthe-et-Moselle Nancy
55   Meuse Bar-le-Duc
56   Morbihan (Llydaweg: Mor-Bihan) Vannes
57   Moselle Metz
58   Nièvre Nevers
59   Nord Lille
60   Oise Beauvais
61   Orne Alençon
62   Pas-de-Calais Arras
63   Puy-de-Dôme Clermont-Ferrand
64   Pyrénées-Atlantiques (Basgeg: Pirinio Atlantikoak; Gwasgwyneg: Pirenèus Atlantics) Pau
65   Hautes-Pyrénées Tarbes
66   Pyrénées-Orientales Perpignan
67   Bas-Rhin (Alsaseg: Unterelsàss, ‘s Unterlànd neu ‘s Ingerlànd) 10 Strasbourg
68   Haut-Rhin (Alsaseg: ‘s Owerelsàss neu ‘s Iwerlànd) 10 Colmar
69   Rhône 9 Lyon
70   Haute-Saône Vesoul
71   Saône-et-Loire Mâcon
72   Sarthe Le Mans
73   Savoie Chambéry
74   Haute-Savoie Annecy
75   Paris 1 Paris
76   Seine-Maritime Rouen
77   Seine-et-Marne Melun
78   Yvelines 2 Versailles
79   Deux-Sèvres Niort
80   Somme Amiens
81   Tarn Albi
82   Tarn-et-Garonne Montauban
83   Var Toulon
84   Vaucluse Avignon
85   Vendée La Roche-sur-Yon
86   Vienne Poitiers
87   Haute-Vienne Limoges
88   Vosges Épinal
89   Yonne Auxerre
90   Territoire de Belfort Belfort
91   Essonne 3 Évry
92   Hauts-de-Seine 4 Nanterre
93   Seine-Saint-Denis 5 Bobigny
94   Val-de-Marne Créteil
95   Val-d'Oise Cergy / Pontoise 6
971   Gwadelwp 7 Basse-Terre
972   Martinique 7 Fort-de-France
973   Guiana Ffrengig 7 Cayenne
974   La Réunion 7 Saint-Denis
976   Mayotte 7 Mamoudzou

Nodiadau:

  1. Neilltuwyd rhif 75 ar gyfer Seine gynt.
  2. Neilltuwyd rhif 78 ar gyfer Seine-et-Oise gynt.
  3. Neilltuwyd rhif 91 ar gyfer Alger, yn yr Algeria Ffrengig gynt.
  4. Neilltuwyd rhif 92 ar gyfer Oran, yn yr Algeria Ffrengig gynt.
  5. Neilltuwyd rhif 93 ar gyfer Constantine, yn yr Algeria Ffrengig gynt
  6. Sefydlwyd prefecture Val-d'Oise yn Pontoise pan grëwyd y département, ond fe'i symudwyd de facto i gomiwn cyfagos Cergy; gyda'i gilydd maent yn creu ville nouvelle Cergy-Pontoise.
  7. Mae'r départements tramor yn gyn-wladfeydd tu allan i Ffrainc, sydd erbyn hyn yn mwynhau statws yn un fath a Ffrainc fetropolitan. Maent yn rhan o Ffrainc a'r Undeb Ewropeaidd, er bod rheolau arbennig yr UE yn gymwys. Mae pob un ohonynt yn ardal o Ffrainc ar yr un pryd.
  8. Ers 2018, mae dau département Corsica wedi uno bellach at ddibenion gwleidyddol, ond yn dal i fodoli yn rhestr y circonscriptions
  9. Ers 2015, mae Métropole Lyon wedi ei gwahanu o département y Rhône gyda statws arbennig.
  10. Ers 2021, mae dau département Alsas wedi uno at ddibenion gwleidyddol.

Hen Départements

golygu

Yn nhiriogaeth bresennol Ffrainc

golygu
Département Préfecture Dyddiad creu Nodiadau
Rhône-et-Loire Lyon 17901793 Rhannwyd yn   Rhône a   Loire ar 12 Awst 1793.
Corse Bastia 17901793 Rhannwyd yn Golo a Liamone.
Golo Bastia 17931811 Ail-gyfunwyd gyda Liamone i greu   Corse.
Liamone Ajaccio 17931811 Ail-gyfunwyd gyda Golo i greu   Corse.
Mont-Blanc Chambéry 17921815 Crëwyd o ran o   Ddugiaeth Savoy, tiriogaeth o   Deyrnas Piedmont-Sardinia a ddychwelwyd i Piedmont-Sardinia ar ôl goresgyniad Napoleon. Mae'r département yn cyfateb yn fras i'r départements Ffrengig   Savoie a   Haute-Savoie.
Léman Geneva 17981814 Crëwyd pan ychwanegwyd   Gweriniaeth Geneva at Ymerodraeth Gyntaf Ffrainc. Daeth Léman yn rhan o ganton   Gweriniaeth a Chanton Geneva yn y Swistir. Mae'r département yn cyfateb i'r canton presennol yn y Swistir a rhannau o départements presennol Ffrainc   Ain a   Haute-Savoie.
Meurthe Nancy 17901871 Daeth Meurthe i ben yn dilyn ychwanegiad Alsace-Lorraine i   Ymerodraeth yr Almaen yn 1871; ni ail-grewyd pan ddychwelodd y département at Ffrainc gan Gytundeb Versailles.
Seine Paris 17901967 Ar 1 Ionawr 1968, rhanwyd Seine yn bedwar départment newydd:   Paris,   Hauts-de-Seine,   Seine-Saint-Denis a   Val-de-Marne, gan ennill dir o Seine-et-Oise yn y broses.
Seine-et-Oise Versailles 17901967 Ar 1 Ionawr 1968, rhanwyd Seine-et-Oise yn dri département newydd:   Yvelines,   Val-d'Oise ac   Essonne, a chollwyd rhan i Seine yn y broses.
Corse Ajaccio 18111975 Ar 15 Medi 1975, ail-ranwyd Corse yn ddau i ffurfio   Corse-du-Sud a   Haute-Corse.
Saint-Pierre-et-Miquelon Saint-Pierre 19761985 Roedd   Saint-Pierre-et-Miquelon yn département tramor o 1976 hyd iddi gael ei throi'n gyfuniad tramor ar 11 Mehefin 1985.

Ail-enwi

golygu

Ail-enwyd rhai o départements Ffrainc, y rhan fwyaf er mwyn cael gwared a'r termau Inférieure ('is') a Basses ('isel'):

Hen Enw Enw Cyfoes Dyddiad Newid
Mayenne-et-Loire Maine-et-Loire 1791
Bec-d'Ambès Gironde 1795
Charente-Inférieure Charente-Maritime 1941
Seine-Inférieure Seine-Maritime 1955
Loire-Inférieure Loire-Atlantique (Llydaweg: Liger-Atlantel) 1957
Basses-Pyrénées Pyrénées-Atlantiques 1969
Basses-Alpes Alpes-de-Haute-Provence 1970
Côtes-du-Nord Côtes-d'Armor (Llydaweg: Aodoù-an-Arvor) 1990

Algeria Ffrengig

golygu
 
Arfbais Algeria Ffrengig

Cyn 1957

golygu
Département Prefecture Dyddiad creu
91 Alger Algiers (18481957)
92 Oran Oran (18481957)
93 Constantine Constantine (18481957)
Bône Annaba (19551957)

1957–1962

golygu
Département Prefecture Dyddiad Bodolaeth
8A Oasis Ouargla (19571962)
8B Saoura Bechar (19571962)
9A Alger Algiers (19571962)
9B Batna Batna (19571962)
9C Bône Annaba (19551962)
9D Constantine Constantine (19571962)
9E Médéa Medea (19571962)
9F Mostaganem Mostaganem (19571962)
9G Oran Oran (19571962)
9H Orléansville Chlef (19571962)
9J Sétif Setif (19571962)
9K Tiaret Tiaret (19571962)
9L Tizi-Ouzou Tizi Ouzou (19571962)
9M Tlemcen Tlemcen (19571962)
9N Aumale Sour el Ghozlane (19581959)
9P Bougie Bejaia (19581962)
9R Saïda Saida (19581962)

Départements yng nghyn-wladfeydd Ffrainc

golygu
Département Lleoliad yng ngwledydd cyfoes Dyddiad creu
Département du Sud Hispaniola
(  Gweriniaeth Dominica ,   Haiti )
17951800
Département de l'Inganne 17951800
Département du Nord 17951800
Département de l'Ouest 17951800
Département de Samana 17951800
Isle de France   Mawrisiws , Seychelles,   Ynys Rodrigues 17951800
Indes-Orientales Chandernagore, Karikal, Mahe, Pondichery, Yanaon 17951800
Sainte-Lucie   Sant Lwsia , Tobago 17951800
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.