Bellshill
tref yn yr Alban
Tref yng Ngogledd Swydd Lanark, yr Alban, yw Bellshill.[1] Fe'i lleolir tua 10 milltir (16 km) i'r de-ddwyrain o ganol dinas Glasgow. Trefi cyfagos eraill yw Motherwell (2 filltir; 3 km), Hamilton (3 milltir; 5 km) a Coatbridge (3 milltir; 5 km)
![]() | |
Math | tref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 20,290 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Swydd Lanark ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 55.8206°N 4.0283°W ![]() |
Cod SYG | S19000521 ![]() |
![]() | |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 20,770.[2]
Yn ystod y 18g roedd y dref yn ganolfan ar gyfer gwehyddu, ond yn ystod y 19g disodlwyd y fasnach honno gan gloddio am lo; erbyn yr 1870au roedd 20 o byllau dwfn ar waith yn yr ardal. Roedd cynhyrchu haearn a dur yn bwysig hefyd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 9 Hydref 2019
- ↑ City Population; adalwyd 9 Hydref 2019