Glasgow
Dinas fwya'r Alban yw Glasgow (Gaeleg: Glaschu;[1] Sgoteg: Glesga) a pedwaredd dinas fwyaf gwledydd Prydain o ran maint[2]. Saif ar Afon Clud yng ngorllewin iseldiroedd y wlad. Er taw Glasgow yw dinas fwyaf yr Alban, Caeredin, yr ail fwyaf, yw'r brifddinas.
![]() | |
![]() | |
Math |
dinas, dinas fawr, y dinas fwyaf, lieutenancy area of Scotland ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
626,410, 612,040 ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Eva Bolander ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Dinas Glasgow, Glasgow, City of Glasgow district, County of the City of Glasgow ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
3,298 ±1 km² ![]() |
Gerllaw |
Afon Clud, Kelvin ![]() |
Yn ffinio gyda |
Aberfoyle, De Swydd Lanark ![]() |
Cyfesurynnau |
55.86°N 4.25°W ![]() |
Cod SYG |
S19000510 ![]() |
Cod OS |
NS590655 ![]() |
Cod post |
G1-G80 ![]() |
GB-GLG ![]() | |
Pennaeth y Llywodraeth |
Eva Bolander ![]() |
![]() | |
Credir bod yr enw, fel llawer o leoedd eraill yn iseldiroedd yr Alban, o darddiad Brythoneg - 'glas' 'cau'. Dywedir i'r ddinas dyfu ar safle mynachlog a sefydlwyd gan Sant Cyndeyrn, sydd a chysylltiad cryf gyda Llanelwy.
Sefydlwyd Prifysgol yno yn y 15g. Daeth Glasgow yn brif ganolfan y byd i'r diwydiant adeiladu llongau yn sgil y Chwyldro Diwydiannol, a daeth yn borthladd pwysig iawn hefyd, ond dirywiodd ei statws rywfaint yn ystod yr 20g. Caidd ei chyfri hefyd fel ardal a fu'n ganolfan bwysig i ddatblygiad peirianneg trwm.[3] Oherwydd hyn arferid ei galw'n "Second City of the British Empire" am ran helaeth o Oes Victoria a'r cyfnod Edwardaidd.[4]
Yn 2012 cyfrifid hi'n un o 10 o ddinasoedd trin arian mwya'r byd.[5]
PoblogaethGolygu
Yn niwedd y 19eg a dechrau'r 20g cynyddodd Glasgow yn ei phoblogaeth gan gyrraedd ei hanterth (1,128,473) yn 1939,[6] gan ei gwneud y bedwaredd dinas fwya'n Ewrop ar ôl Llundain, Paris a Berlin.[7]
Roedd 585,090 o bobl yn byw o fewn terfynau Dinas Glasgow yn ôl Cyfrifiad 2001, a 1,168,270 gan gynnwys yr ardaloedd trefol o amgylch y ddinas.
CludiantGolygu
CludiantGolygu
Mae gan y ddinas rwydwaith eang o gludiant, rheolir gan [[Partneriaeth Strathclyde Drafnidiaeth|Bartneriaeth Strathclyde Drafnidiaeth, er defnyddir cwmnïau preifat i redeg mwyafrif ei gwasanaethau.
BysiauGolygu
Mae rhwydwaith eang o wasanaethau bws ar draws a thu hwnt y ddinas. Y brif gwmnïau bws yw First Glasgow, Gwasanaethau bws McGill, [[Stagecoach Gorllewin y Prif orsaf bws y ddinas yw Gorsaf Bws Buchanan.
RheilffyrddGolygu
Mae gan Glasgow 2 brif orsaf reilffordd, Gorsaf reilffordd Glasgow Canolog, sydd yn cysylltu â Chaeredin, y de a Lloegr, a Gorsaf reilffordd Glasgow (Heol y Frenhines), sydd yn cysylltu â’r gogledd a Chaeredin[8]. Mae hefyd rhwydwaith eang o wasanaethau lleol, trefnir gan SPT (Strathclyde Partnership for Transport) sydd yn cynnwys 12 o awdurdodau lleol, gan gynnwys Glasgow. Mae SPT yn gyfrifol hefyd am Reilffordd Danddaearol Glasgow, sydd yn ffurfio cylch ynghanol y ddinas.[9]
Meysydd awyrGolygu
Mae gan y ddinas 2 faes awyr; Maes awyr Glasgow[10] a Maes awyr Prestwick.[11][12]
Fferi RenfrewGolygu
Mae fferi’n croesi Afon Clud rhwng Renfrew a Yoker. Mae Cwmni Clyde Link yn rhedeg y wasanaeth.[13]
Fferi GovanGolygu
Mae Fferi Govan yn croesi’r afon rhwng Govan ac Amgueddfa Riverside rhwng Gorffennaf a Hydref.[14]
Maes Awyr Awyrennau MôrGolygu
Mae Cwmni Loch Lomond Seaplanes yn rhedeg gwasanaethau rhwng Glasgow, Oban a Tobermory, yn mynd o’r afon.[15]
Adeiladau a chofadeiladauGolygu
- Amgueddfa Hunterian
- Amgueddfa Kelvingrove
- Amgueddfa Riverside
- Arena Hydro SSE
- Awditoriwm Clud (yr Armadilo)
- Croes y Farchnad
- Eglwys gadeiriol
- Theatr Brenhinol
- Tolbooth
- Ystafelloedd Te'r Helygen
Pontydd[16]Golygu
- Pont Mileniwm (2002)
- Pont Bells (1989)
- Arc Clud / Y Bont 'Squinty' (2006)
- Pont Kingston (1970)
- Pont droed Tradeston (2008)
- Pont Siors V (1929)
- Ail bont Rheilffordd y Caledonian (1905)
- Pont gyntaf y Reilffordd Caledonian (1878)
- Pont Glasgow (1899)
- Pont grog Heol De Portland (1853)
- Pont Fictoria (1854)
- Pont Reilffordd Undod y Ddinas (1899)
- Pont Albert (1871)
- Argae Llanwol a Phont Bibell (1901 (ail-adeiladwyd 1949)
- Pont grog Sant Andrew (1856)
- Pont y Brenin (1933)
- Pont Polmadic (1955)
- Pont Rutherglen (1896)
- Pont reilffordd gyntaf Dalmarnock (1861)
- Ail Bont reilffordd Dalmarnock(1897)
- Pont Dalmarnock (1897)
Mae hefyd Twnnel Clud rhwng Govan a Scotstoun.
EnwogionGolygu
- Nigel Tranter (1909-2000), nofelydd
- Stanley Baxter (g. 1926), comediwr ac actor
- Winnie Ewing (g. 1929), gwleidydd
- Donald Dewar (1937-2000), gwleidydd
- Billy Connolly (g. 1942), comediwr ac actor
- John Barrowman (g. 1967), actor a chanwr
Gweler hefydGolygu
- Ceir sawl Etholaeth Cyffredinol yng Nglasgow: Canol Glasgow, De Glasgow, Dwyrain Glasgow, Gogledd Glasgow, Gogledd-orllewin Glasgow, Gogledd-ddwyrain Glasgow a De-orllewin Glasgow.
- Rhestr etholaethau Senedd y DU yn yr Alban
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba; adalwyd 3 Hydref 2019
- ↑ "World Gazetteer; adalwyd 30 Rhagfyr 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Chwefror 2013.
- ↑ "Glasgow Feature Page". Undiscovered Scotland. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2007.
- ↑ "Victorian Glasgow". BBC History. Cyrchwyd 14 Medi 2010.
- ↑ "Global Financial Centres Index 10: Glasgow Enters European Top Ten". Cyrchwyd 8 Mehefin 2012.
- ↑ "Factsheet 4: Population" (PDF). Glasgow City Council. Cyrchwyd 9 July 2007.
- ↑ "Visiting Glasgow: Clyde Bridges". Cyngor Dinas Glasgow. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2011.
- ↑ Gwefan raileurope.com
- ↑ Gwefan SPT
- ↑ Gwefan maes awyr Glasgow
- ↑ Gwefan maes awyr Prestwick
- ↑ Gwefan skyscanner.com
- ↑ Gwefan glasgowlive.co.uk
- ↑ Gwefan getintogovan.com
- ↑ Gwefan glasgowlive.co.uk
- ↑ Gwefan discoverglasgow.org