Ben Bowen
efrydydd a bardd
Bardd Cymraeg oedd Ben Bowen (1878 - 16 Awst 1903).
Ben Bowen | |
---|---|
Ganwyd | 1878 Treorci |
Bu farw | 16 Awst 1903 Ton Pentre |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Perthnasau | Euros Bowen |
Bywgraffiad
golyguGaned ef yn Nhreorci, yn fab i Thomas a Dinah Bowen. Aeth i weithio fel glöwr yn weddol ieuanc, a dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth a chystadlu mewn eisteddfodau lleol.
Gadawodd y pwll glo yn 1897 er mwyn astudio ar gyfer y weinidogaeth gyda'r Bedyddwyr. Aeth i Brifysgol Caerdydd, ond oherwydd afiechyd, ni allodd orffen ei flwyddyn gyntaf. Daeth yn ail am y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1900, gyda phryddest ar y testun "Pantycelyn". Codwyd tysteb iddo fynd i Dde Affrica i geisio gwella ei iechyd yn 1901 a 1902. Parhaodd ei iechyd i ddirywio wedi iddo ddychwelyd, a bu farw yn 1903.
Llyfryddiaeth
golyguCyhoeddwyd nifer o gasgliadau o'i waith dan olygyddiaeth ei frawd, Myfyr Hefin:
- Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen (1904)
- Rhyddiaith Ben Bowen (1909)
- Blagur Awen Ben Bowen (1915)
- Ben Bowen yn Neheudir Affrica (1928). Ei ddydiadur.
- Ben Bowen i'r Ifanc (1928).