Ben Guerdane

Tref fechan yn nhalaith Medenine yn ne-ddwyrain eithaf Tiwnisia yw Ben Guerdane. Mae ganddi boblogaeth o tua 3,000.

Ben Guerdane
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth79,912 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMédenine Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau33.1389°N 11.2167°E Edit this on Wikidata
Cod post4160 Edit this on Wikidata

Gorwedd y dref tua 35 km o'r ffin rhwng Tiwnisia a Libia. Pan osodwyd embargo cludiant awyr ar y wlad honno yn 1992 am ei bod yn cael ei chyhuddo o fod yn gyfrifol am fomio'r awyren a syrthiodd ar Lockerbie, yr Alban, cafodd Ben Guerdane gyfnod llewyrchus oherwydd ei lleoliad ar un o'r ddwy ffordd sy'n cysylltu Libia â gweddill Gogledd Affrica.

Mae'r dref yn enwog yn lleol am ei farchnad sy'n gwerthu nwyddau rhad o Libia.