Benita Asas Manterola
Ffeminist o Wlad y Basg oedd Benita Asas Manterola (4 Mawrth 1873 - 21 Ebrill 1968) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel addysgwraig, swffragét ac ymgyrchydd dros fynnu'r bleidlais i ferched.
Benita Asas Manterola | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mawrth 1873 Donostia |
Bu farw | 21 Ebrill 1968 Bilbo |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | addysgwr, golygydd, newyddiadurwr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Cyflogwr | |
Arddull | textbook |
Mudiad | ffeministiaeth |
Fe'i ganed yn Donostia, Gwlad y Basg a bu farw yn Bilbo.
Hyfforddodd fel athrawes cyn symud i Madrid, Sbaen, lle gweithiai yn y system ysgolion cyhoeddus. Ynghyd â Pilar Fernández Selfa, sefydlodd Asas y cyfnodolyn deufisol El Pensamiento Femenino, a gyhoeddwyd rhwng 1913 a 1917. Hi oedd llywydd yr Asociación Nacional de Mujeres Españolas (ANME) o 1924 i 1932.[1] Gan ddechrau yn 1925, bu'n cyfarwyddo papur newydd misol ANME, sef Mundo Feminino.[2][3][4][5][6][7]
Yn 1929, cynrychiolodd ANME yng nghynhadledd ryngwladol Cynghrair y Merched dros Heddwch a Rhyddid. Roedd Asas hefyd yn un o sefydlwyr y Lyceum Club Femenino Español, Madrid, gyda Maria de Maeztu Whitney.[8]
Yn 2017, cafodd stryd yn ninas Bilbo ei hailenwi ar ei hôl, i gydnabod cyfraniad Asas i amddiffyn hawliau menywod.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Menywod Sbaen am rai blynyddoedd. [9]
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Tavera García, Susanna. "Benita Asas Manterola". Real Academia de la Historia. Cyrchwyd 16 Mawrth 2019.
- ↑ Cyffredinol: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Rhyw: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Dyddiad geni: "Benita Asas Manterola". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Benita Asas Manterola". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Tolliver, Joyce (1998). Cigar smoke and violet water: gendered discourse in the stories of Emilia Pardo Bazán. Bucknell University Press. t. 63. ISBN 0838753752.
- ↑ José Villa, Maria. "Benita Asas Manterola". Bilbaopedia. University of the Basque Country. Cyrchwyd 16 Mawrth 2019.
- ↑ Estornes Zubizarreta, Idoia. "Asas Manterola, Benita". Auñamendi Eusko Entziklopedia (yn Sbaeneg). Fondo Bernardo Estornés Lasa. Cyrchwyd 16 Mawrth 2019.
- ↑ Galwedigaeth: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.