Gwlad y Basg
Gwlad yn ne-orllewin Ewrop rhwng Gwlff Gasgwyn a'r Pyreneau yw Gwlad y Basg (Basgeg: Euskal Herria). Yn weinyddol, fe'i rhennir rhwng Sbaen a Ffrainc, mewn nifer o ranbarthau gwahanol. Mae'n cyfateb yn fras i famwlad y Basgiaid a'r iaith Fasgeg.
Euskal Herria | |
Math | Gwlad |
---|---|
Poblogaeth | 3,193,513 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Sbaen, Ffrainc |
Arwynebedd | 20,870 km² |
Cyfesurynnau | 42.8831°N 1.9356°W |
CMC y pen | $39,640 |
- Mae'r erthygl hon yn ymwneud â Gwlad y Basg gyfan. Am gymuned ymreolaethol Sbaen, gweler Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg.
Daearyddiaeth
golyguMae Gwlad y Basg yn cynnwys saith talaith draddodiadol:
- Gogledd Gwlad y Basg (Iparralde)
- Lapurdi (Ffrangeg: Labourd)
- Nafarroa Beherea (Ffrangeg: Basse-Navarre)
- Zuberoa (Ffrangeg: Soule)
- De Gwlad y Basg (Hegoalde)
Mae Araba, Bizkaia a Gipuzcoa yn ffurfio Euskadi, cymuned ymreolaethol Sbaen, tra bod Nafarroa yn gymuned ymreolaethol ynddi ei hun.
Hanes
golygu- Prif: Hanes Gwlad y Basg
Cred rhai mai'r Basgiaid yw gweddillion trigolion gwreiddiol Gorllewin Ewrop, gyda'u gwreiddiau yn mynd yn ôl i'r cyfnod Paleolithig, cyn dyfodiad mewnfudwyr o'r dwyrain yn dwyn yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Cyfeiria awduron clasurol megis Strabo a Plinius yr Hynaf at lwythau megis y Vascones a'r Aquitani yn byw yn y tiriogaethau hyn, ac mae rhywfaint o dystiolaeth eu bod eisoes yn siarad Basgeg.
Profwyd yn ddiweddar fod y Basgiaid yn meddu ar yr un "cromosomau Y" â'r Cymry. Dywedodd yr Athro David Goldstein o Goleg Prifysgol Llundain, "Yn ystadegol does dim modd gwahaniaethu rhwng "cromosomau Y" y Basgiaid a’r Cymry."[1] Credir bellach gan genetegwyr fod y Celtiaid a’r Basgiaid yn ddisgynyddion yr Ewropeaid cynharaf, sef yr helwyr Palaeolithig o Siberia, ac mae tystiolaeth genynnol yn olrhain y Cymry, y Gwyddelod, yr Albanwyr Gaelaidd, y Basgiaid a phobloedd brodorol yr Amerig yn ôl i tua 50,000 flynyddoedd a hynny i ardal Dyffryn Afon Yenisei yn Siberia.
Yn y Canol Oesoedd cynnar, adwaenid y diriogaeth rhwng Afon Ebro ac Afon Garonne fel Vasconia, ac am gyfnodau bu yn annibynnol dan Ddugiaid Vasconia. Rhannwyd y diriogaeth yn dilyn concwest y rhan fwyaf o Benrhyn Iberia gan y Mwslimiaid ac ymestyniad teyrnas y Ffranciaid tua'r de dan Siarlymaen.
Yn y 9g, Teyrnas Pamplona oedd y grym mwyaf yn yr ardal, a datblygodd Teyrnas Navarra o'r deyrnas yma yn ddiweddarach. Ym mlynyddoedd cynnar y 16g, unwyd rhan ddeheuol y deyrnas yma a Theyrnas Castilla, tra daeth y rhan ogleddol yn rhan o Ffrainc.
Roedd gan y taleithiau Basgaidd fesur helaeth o hunanlywodraeth yn Sbaen a Ffrainc am gyfnod. Daeth hyn i ben yn Ffrainc yn dilyn Chwyldro Ffrainc, ac yn Sbaen yn dilyn y Rhyfeloedd Carlaidd yn rhan gyntaf y 19g. Y y cyfnod diweddar, mae Cenedlaetholdeb Basgaidd yn anelu at uno'r saith talaith yn wladwriaeth annibynnol. Lluniwyd faner Gwlad y Basg, yr Ikurrina, fel rhan o fudiad genedlaethol y Basgiaid.
Cyfraith – Los Fueros
golyguEtifeddiaeth gan y Reconquista yn yr Oesoedd Canol oedd y fueros - sef siarteri a oedd yn rhoi rhywfaint o annibyniaeth wleidyddol i diriogaethau ar y ffin rhwng teyrnasoedd Mwraidd a theyrnasoedd Cristionogol. Yn ymarferol, roedd hyn yn golygu bod y taleithiau Basgaidd yn rhydd i arfer eu deddfau cymdeithasol, masnachol a throseddol eu hunain, a goroesodd y drefn hon hyd at y 19g. Ond yn enw effeithlonrwydd, ac yn dilyn y patrwm Napoleonaidd yn Ffrainc, byddai llywodraethau olynol Madrid yn dechrau dirymu Los Fueros fesul un, gyda’r bwriad o sefydlu gwladwriaeth ganoledig.
Las Guerras Carlistas
golyguFfactor pwysig i sbarduno y ddau Ryfel Carlaidd yn Sbaen oedd yr ymosodiad cyfansoddiadol hwn, rhyfeloedd a ymladdwyd dros olyniaeth y goron Sbaen, ond gydag elfennau pwysig o ranbartholdeb a gwrthdaro ideolegol hefyd. Collodd y Basgiaid eu fueros yn derfynol ar ôl yr Ail Ryfel Carlaidd yn 1876, ond byddai delfrydau Carlismo – sef ceidwadaeth grefyddol a chred mewn hawliau rhanbarthol – yn chwarae rhan bwysig mewn twf y mudiad cenedlaethol newydd yn y 1890au, a byddai amddiffyniad y fueros yn troi yn arwyddair y mudiad, sef ‘Jaungoikua eta Lagizarra’: y gair ‘Lagizarra’ yn golygu ‘hen gyfraith’ yn Iaith y Basg.
Llenyddiaeth
golyguEr y cyhoeddwyd y llyfr cyntaf yn Euskara yn 1545, ni ellir dweud bod llenyddiaeth ysgrifenedig (na diwydiant cyhoeddi) yn ffynnu yno tan ddiwedd y 19g a chyhoeddi’r cyfrolau cyntaf o farddoniaeth Fasgeg a chylchgronau diwylliannol a gwleidyddol.
1545 - Linguae Vascorum Primitiae, Bernard Dechepare
1571 - Cyfieithiad i’r Fasgeg o’r Efengylau gan Leizarraga
1638 - Notitia Ultriusque Vasconiae, Arnold Oihénart
1657 - Casgliad o 537 o gerddi a diarhebion Basgaidd gan Arnold Oihénart
17eg a 18g - Bernard de Gasteluzar, d’Argaineratz, Harizmendi, Etcheberri, Augustín de Cardaveraz, Manuel de Larramendi, Haraneder,
19g - Beirdd: Hiribarren (‘Euskaldunak’), Elisamburu, Larralde, Dibarat, Sabino Arana, Yparraguire (‘Guernikako Arbola’), Etchahoun o Barcus
1878-1885 - Cylchgronau: Revista de las Provincias Euskaras (Vitoria, 1878-80), Revista Euskara (Pamplona, 1878-83), Euskal-erria (San Sebastián, 1880-1907), Revista de Vizcaya (Bilbao, 1885-89).
1888 - Gramática Elemental del Euzkera bizkaíno (Sabino Arana)
Demograffeg
golyguY prif ddinasoedd yw:
- Bilbo (354,145)
- Vitoria-Gasteiz (226,490)
- Pamplona (Basgeg: Iruña, 195,769)
- Donostia (Sbaeneg: San Sebastian) (183,308)
- Barakaldo (95,675)
- Getxo (83,000)
- Irun (59,557)
- Portugalete (51,066)
- Santurce (47,320)
- Baiona (44,300)
Chwaraeon
golyguPêl-droed yw'r mwyaf poblogaidd ymysg chwaraeon Gwlad y Basg, gyda'r prif dimau yn cynnwys Athletic Bilbao, Real Sociedad ac Osasuna. Nid oes gan Dîm pêl-droed Gwlad y Basg gydnabyddiaeth ryngwladol fel tîm cenedlaethol gan FIFA nac UEFA. Serch hynny, mae tîm cenedlaethol Ffederasiwn Bêl-droed Gwlad y Basg yn chwarae gemau rhyngwladol â gwledydd cydnabyddedig.
Yn y rhan ogleddol, yn Ffrainc, mae rygbi'r undeb yn fwy poblogaidd na phêl-droed, gyda thîm Biarritz, Biarritz Olympique Pays Basque, yn arbennig o adnabyddus. Mae seiclo a pêl fasged a mynydda hefyd yn boblogaidd. Gêm a gysylltir yn arbennig â Gwlad y Basg yw Pilota (pelota yn Sbaeneg).