Term celf Siapaneaidd yw Benizuri-e (Siapaneg: 紅刷絵, sef "darluniau printiedig lliw rhuddgoch") am fath o brintiadau bloc pren ukiyo-e cynnar o arddull “cyntefig” mewn cymhariaeth a darluniau a phrintiau diweddarach. Arferid eu printio mewn inc rhuddgoch neu binc (sef beni), a gwyrdd, gyda lliw arall yn cael ei ychwanegu weithiau, naill ai trwy brintio haen inc ychwanegol neu â llaw.

Print benizuri-e gan Ishikawa Toyonobu yn dangos actores kabuki yn chwarae samisen yng nghwmni actor arall.

Cyrhaeddodd cynhyrchu printiau benizuri-e ei uchafbwynt yn y 1740au. Torii Kiyohiro, Torii Kiyomitsu I, Torii Kiyonobu I, Okumura Masanobu, Nishimura Shigenaga, ac Ishikawa Toyonobu yw'r artistiad a gysylltir gyda benizuri-e yn bennaf.

Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato