Benjamin Phelps Gibbon

ysgythrwr

Roedd Benjamin Phelps Gibbon (1802 - 28 Gorffennaf, 1851) yn ysgythrwr o Gymru.[1]

Benjamin Phelps Gibbon
Ganwyd1802 Edit this on Wikidata
Penalun Edit this on Wikidata
Bu farw28 Gorffennaf 1851 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol St Edmund Edit this on Wikidata
Galwedigaethengrafwr Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Gibbon ym Mhenalun, Sir Benfro yn blentyn i Benjamin Gibbon ficer plwyf Penalun a Jane ei wraig. Bu farw'r tad pan oedd y plentyn yn 10 oed gan hynny cafodd lle fel disgybl yn Yr Ysgol I Blant Amddifad Clerigwyr yn Acton Swydd Middlesex. Roedd yr ysgol yn bodoli i roi addysg sylfaenol mewn darllen, ysgrifennu a rhifyddeg i blant clerigwyr Anglicanaidd di-dad, hyd eu bod yn ddigon hen i'w rhoi mewn prentisiaeth.[2] Prentisiwyd Gibbon i'r ysgythrwr dotwaith Edward Scriven.

Wedi cyflawni ei erthyglau o brentisiaeth aeth Gibbon i weithio i'r llin-ysgythrwr John Henry Robertson yn swydd Buckingham. Daeth yn ysgythrwr o gryn allu trwy arloesi mewn cymysgu dotwaith a gwaith llinell yn ei blatiau.

Creodd Gibbon platiau ar gyfer llyfrau a gyhoeddwyd gan rai o argraffwyr mawr Llundain megis Cwmni Moon. Roedd llawer o'i waith yn copïo rhai o ddarlunwyr enwocaf ei gyfnod, megis Syr Edwin Landseer.[3] Ymysg ei blatiau yn seiliedig ar waith Landseer mae:

 
Ysgythriad o Edward Scriven gan Gibbon
  • The Twa Dogs, 1827;
  • The Travelled Monkey, 1828;
  • The Fireside Party, 1831;
  • Jack in Office, 1834;
  • Suspense, 1837;
  • The Shepherd's Grave, 1838;
  • The Shepherd's Chief Mourner, 1838;
  • Be it ever so humble, there's no place like Home, 1843;
  • The Highland Shepherd's Home, 1846;
  • Roebuck and Rough Hounds, 1849.

Cynhyrchodd portreadau o'r Frenhines Victoria a'i gyn meistr, Edward Scriven.

Ni fu Gibbon yn briod ond rhoddodd gartref yn ei dŷ i nifer o blant amddifad.

Marwolaeth

golygu

Bu'n wan ei iechyd o'i blentyndod a bu farw yn ei gartref yn Regent's Park, Llundain yn 47 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Kensal Green.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "GIBBON, BENJAMIN PHELPS (1802 - 1851), llin-ysgythrwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-16.
  2. "History". Clergy Support Trust. Cyrchwyd 2020-03-16.
  3. "Gibbon, Benjamin Phelps (1802–1851), engraver | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/10586. Cyrchwyd 2020-03-16.