Bernard Madoff
Cyn-ddyn busnes, brocer stoc, cynghorwr buddsoddi, ac ariannwr Americanaidd yw Bernard Lawrence "Bernie" Madoff (
/ˈmeɪdɒf
/;[1] ganwyd 29 Ebrill 1938). Ef yw cyn-gadeirydd anweithredol y farchnad stoc NASDAQ, ac ef oedd tu ôl i'r cynllun Ponzi mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau.
Bernard Madoff | |
---|---|
![]() Ffotograff Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau o Bernard Madoff, 2009. | |
Ganwyd |
Bernard Lawrence Madoff ![]() 29 Ebrill 1938 ![]() Queens ![]() |
Dinasyddiaeth |
Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
brocer stoc, ariannwr, economegydd, banciwr ![]() |
Tad |
Ralph Madoff ![]() |
Priod |
Ruth Madoff ![]() |
Plant |
Mark Madoff, Andrew Madoff ![]() |
Ym mis Mawrth 2009, plediodd Madoff yn euog i 11 o feloniaethau: twyll gwarantau, twyll cynghori buddsoddwyr, twyll post, twyll gwifr, prosesu arian anghyfreithlon yn rhyngwladol i alluogi twyll wrth werthu gwarantau, prosesu arian anghyfreithlon yn rhyngwladol i guddio elw o dwyll wrth werthu gwarantau, prosesu arian anghyfreithlon, gwneud datganiadau anwireddus, anudoniaeth, gwneud cofnod anwireddus â'r Comisiwn Gwarantau a Chyfnewid, a lladrad o gynllun budd-daliadau gweithwyr.[2] Cafodd ei ddedfrydu i'r carchar am 150 mlynedd.[3]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Voice of America pronunciation guide". Voice of America. Cyrchwyd 29 Mai 2012.
- ↑ (Saesneg) Transcript of 3/12/09 Guilty Plea Proceeding. Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau. Adalwyd ar 29 Mai 2012.
- ↑ Healy, Jack (29 Mehefin 2009). "Madoff Sentenced to 150 Years for Ponzi Scheme". The New York Times. Cyrchwyd 29 Mai 2012.