Bethan Phillips
Awdures a sgriptwraig o Gymraes oedd Bethan Phillips (1935/1936 – 30 Hydref 2019).[1][2] Roedd yn fwyaf adnabyddus am y gyfrol Dihirod Dyfed a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1991.[3]
Bethan Phillips | |
---|---|
Ganwyd | 1934 Llanbedr Pont Steffan |
Bu farw | Tachwedd 2019 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Fe'i ganwyd yn Llanbedr Pont Steffan ac aeth i astudio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.
Roedd yn gyn-athrawes a darlithwraig. Bu hefyd yn sgriptio rhaglenni i gyfres Almanac. Ysgrifennodd nifer erthyglau ac adolygiadau yn y Western Mail, Y Faner, Country Quest a Planet.
Llyfryddiaeth
golygu- Dihirod Dyfed (Hughes, 2003)
- Rhwng Dau Fyd - Y Swagman o Geredigion (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1998)
Bywyd personol
golyguRoedd yn byw yn Llanbedr Pont Steffan. Roedd hi'n briod â John Phillips, awdur a chyn Cyfarwyddwr Addysg a Phrif weithredwr Cyngor Sir Dyfed,[4] ac yn fam i ddau[1]. Ar ddiwedd ei hoes roedd Mrs Phillips yn byw gyda'r cyflwr dementia ac yn byw mewn cartref gofal.[5][6]
Bu farw yn 84 mlwydd oed ar 30 Hydref 2019. Cynhaliwyd gwasanaeth i'r teulu yn Amlosgfa Aberystwyth ar Dydd Llun 18 Tachwedd 2019 yn y bore wedi ei ddilyn gan Wasanaeth Coffa yng nghapel Shiloh Llambed yn y prynhawn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Cofio'r awdures Bethan Phillips sydd wedi marw'n 84 oed , BBC Cymru Fyw, 8 Tachwedd 2019.
- ↑ Hysbysiad marwolaeth. Western Mail (9 Tachwedd 2019).
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 8 Chwefror 2015
- ↑ Phillips, John. Agor cloriau. Talybont: Y Lolfa. ISBN 9781784615529. OCLC 1052384901.
- ↑ "Agwedd tuag at ofal dementia'n "annerbyniol", medd awdur". Golwg360. 2018-05-01. Cyrchwyd 2019-11-09.
- ↑ Colli awdures llyfrau a chyfresi teledu poblogaidd , Golwg360, 9 Tachwedd 2019.