Llanbedr Pont Steffan

tref yng Nghymru

Tref a chymuned yn nyffryn Teifi, yng Ngheredigion yw Llanbedr Pont Steffan[1] (hefyd Llambed a Llanbed, Saesneg: Lampeter). Mae yno farchnad, dwy archfarchnad a nifer o siopau lleol. Yno hefyd mae Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, Ysgol Ffynnonbedr ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan. Saif Hen Domen Llanbedr Pont Steffan, sef hen domen o'r Oesoedd Canol ar ochr ddwyreiniol i'r dref. Yng Nghyfrifiad 2001, poblogaeth Llambed oedd 2,894.[2] Mae hyn yn golygu mai Llambed ydy tref-brifysgol lleiaf gwledydd Prydain.

Llanbedr Pont Steffan
Mathtref farchnad, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,505 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1202°N 4.0821°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000370 Edit this on Wikidata
Cod OSSN578478 Edit this on Wikidata
Cod postSA48 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Am leoedd eraill o'r enw "Llanbedr", gweler Llanbedr (gwahaniaethu).

Y Brifysgol

golygu

Sefydlwyd Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan yn 1822 gan Esgob Burgess o Dyddewi er mwyn hyfforddi darpar offeiriaid yn yr eglwys Anglicanaidd. Yn 1852 cafodd yr hawl (drwy Siarter) i gynnig Gradd BD a Siarter arall i roi'r hawl i'r Brifysgol gynnig Gradd BA yn y celfyddyda 1865.[3] Roedd yn rhan o Brifysgol Cymru hyd at 2008. Sylfaenwyd pensaerniaeth y prif adeilad ar ddull petrual Rhydgrawnt (Saesneg: Oxbridge) ac a gynlluniwyd gan C. R. Cockerell. Enw newydd ar y coleg yw Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Tim rygbi'r Brifysgol oedd y cyntaf drwy Gymru, wedi i un o'r darlithwyr (Rowland Williams) ddod a'r gêm o Gaergrawnt.

Adeiladau eraill

golygu
 
Y dref tua 1885.

Roedd lleoliad cartref hen bobl Hafan Deg yn arfer bod yn wyrcws, a gafodd ei ddymchwel yn y 1960au pan godwyd y cartref newydd.[4]

Papur Bro

golygu

Papur Bro Clonc[5] yw papur bro Llanbedr Pont Steffan a'r plwyfi o gwmpas y dref. Cyhoeddir rhifyn yn fisol, ac mae gwefan Clonc360[6] yn brosiect bywiog gan nifer o wirfoddolwyr lleol, dan faner y papur bro a Golwg360.[7]

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10][11]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanbedr Pont Steffan (pob oed) (2,970)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanbedr Pont Steffan) (1,346)
  
46.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanbedr Pont Steffan) (1581)
  
53.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanbedr Pont Steffan) (450)
  
40.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

golygu

Eisteddfod Genedlaethol

golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llambed ym 1984. I gael gwybodaeth bellach gweler:

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Office for National Statistics : Census 2001 : Cyfrif Cymunedol : Ceredigion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-29. Cyrchwyd 2012-10-04.
  3. Jenkins, J. Geraint. Ceredigion: Interpreting an Ancient County. Gwasg Careg Gwalch (2005) pg. 29.
  4. gtj.org
  5. "Papur Bro Clonc". Clonc360.
  6. "Clonc360". Clonc360.
  7. "Golwg360". golwg.360.cymru.
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  11. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolenni allanol

golygu