Beti'r Bont

gwrach o Sir Benfro

Gwrach neu 'wraig hysbys' chwedlonol oedd Beti’r Bont a oedd yn byw yn Ystrad Meurig.[1]

Beti'r Bont
GanwydSir Benfro Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Yn ôl y chwedl, roedd Beti’r Bont yn swynwraig adnabyddus a nerthol. Ni fyddai pobl yn meiddio gwneud cam â hi. Un bore, cwrddodd Beti â gwas ifanc oedd yn gweithio yn Nôl Fawr.

Chwarddodd y gwas am ei phen, gan ddiystyru ei galluoedd goruwchnaturiol hi. Syllodd Beti arno am gyfnod hir, cyn ei adael.

Y noson honno, deffrôdd y gwas a sylweddoli ei fod e wedi cael ei droi’r ysgyfarnog. Roedd ofn arno pan sylweddolodd fod dau filgi mawr yn syllu arno o gornel ei stafell.

Rhedodd am ei fywyd, gyda’r ddau gi yn rhedeg ar ei ôl. Aethant drwy sawl cae a chlawdd cyn i’r gwas lwyddo i redeg yn ôl i Ddôl Fawr, a throi’n ddyn eto.

Digwyddodd hyn eto sawl gwaith cyn iddo ymddiheuro i Beti’r Bont, a chydnabod ei galluoedd goruwchnaturiol hi, a thynnwyd y felltith oddi arno.

Cyfeiriadau golygu

  1. W. Jenkyn Thomas (6 Chwefror 2013). The Welsh Fairy Book. Courier Corporation. t. 163. ISBN 978-0-486-11991-5.