Agor y brif ddewislen

Pentref bychan, cymuned a phlwyf uwchben Dyffryn Teifi yng Ngheredigion yw Ystrad Meurig (neu Ystradmeurig). Fe'i lleolir ar y B4340 ar y ffordd rhwng Pontrhydfendigaid i'r dwyrain a Lledrod i'r gorllewin, tua 12 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth.

Ystrad Meurig
Math Tref bost, Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.2928°N 3.8989°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000407 Edit this on Wikidata
Cod OS SN706675 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)

Saif y pentref ger tro ar Afon Teifi filltir o'r man lle ymuna ffrwd Afon Meurig yn yr afon honno, ger Cors Caron. Yn ymyl y pentref ceir adfeilion castell Ystrad Meurig a godwyd gan Gilbert de Clare ym 1116. Llosgwyd y castell mwnt a beili hwnnw gan meibion Gruffudd ap Cynan yn 1137; fe'i ailadeiladwyd ond cafodd ei ddinistrio'n derfynnol yn 1199.[1] Mae gwaith archaeolegol diweddar ar y safle wedi canfod olion o'r hyn a allai fod yn llys ac amddiffynfa sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol Cynnar.[2]

Ar ben Craig Ystrad Meurig i'r gogledd o'r pentref ceir bryngaer fechan.

Ganwyd y bardd ac ysgolhaig Edward Richard yno ym mis Mawrth 1714. Yno bu'n cadw ysgol elfennol o 1734 hyd ei farwolaeth. Roedd ei ddisgyblion yn cynnwys meibion Lewis Morris, mab William Williams Pantycelyn ac Ieuan Fardd.

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[3][4]

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Ystrad Meurig (pob oed) (353)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ystrad Meurig) (181)
  
52.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ystrad Meurig) (202)
  
57.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Ystrad Meurig) (45)
  
28.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

OrielGolygu

CyfeiriadauGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. Cestyll Ceredigion.
  2. Ymchwil archaeolegol ar y safle
  3. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

FfynonellauGolygu

  • Afan ab Alun, Cestyll Ceredigion (Llanrwst, 1991)
  • T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Llyfrau'r Dryw, 1952)