Cân gan y grŵp canu ysgafn, Cymreig Mynediad am Ddim yw Beti Wyn, a gyfansoddwyd yn 1974 gan Robin Evans, un o aelodau'r band.

'Mynediad am Ddim'

Fe'i cyfansoddwyd yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 1974. Roedd sawl un o'r grŵp yn byw yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth rhwng 1973 a 1974, ar yr un coridor. Cyfansoddwyd alaw gan ddau arall: Mei Jones ac Iwan Roberts ac aeth Robin ati i sgwennu penillion am lefydd yn Eifionydd: Pont y Merched, gerllaw Ffynnon Cybi, er enghraifft.

Dywedodd Robin Evans wrth Cymru Fyw: "Un o'r genod oedd yn ein 'criw' ni (os mynni di) oedd Beti Wyn, felly dyma Emyr Wyn yn dechrau canu 'Beti Wyn' drosodd a throsodd fel cytgan. Ac mae o hyd y dydd heddiw yn mynnu hawlio geiriau'r cytgan!"[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Cymru Fyw; adalwyd 6 Chwefror 2017.

Dolen allanol

golygu