Llangybi, Gwynedd

pentref yng Ngwynedd

Pentref bychan yn ardal Eifionydd, Gwynedd yw Llangybi ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Gorwedd ar ffordd wledig tua 6 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Bwllheli. Mae'n rhan o gymuned Llanystumdwy.

Llangybi
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanystumdwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9447°N 4.34°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH427411 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Ffynnon Gybi golygu

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd eglwys Llangybi gan Sant Cybi, nawddsant Caergybi ar Ynys Môn. Mae'n adnabyddus am Ffynnon Gybi, tua 400 medr o'r eglwys, hen ganolfan bererindod leol ar un o'r llwybrau hynafol i Ynys Enlli. Ceir adfeilion hen gell feudwy yno. Roedd y ffynnon yn adnabyddus am ragweld ffyddlondeb cariadon. Ar un adeg roedd yna llysywenod yn y ffynnon; credid byddai claf yn dioddef o anhwyldra yn ei goes yn gwella pe bai un o'r pysgod hynny yn rwbio yn ei erbyn wrth iddo sefyll yn y ffynnon. Codwyd to dros y ffynnon ac roedd ceidwad yno i ofalu am yr ymwelwyr.[3] Mae'r safle yng ngofal Cadw.

 
Llangybi

Addysg golygu

Ceir Ysgol Llangybi yn y pentref, ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg sydd yn nhalgylch Ysgol Glan y Môr, Pwllheli.

Pobl o Langybi golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. T. D. Beverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000), d.g. Cybi.