Beto O'Rourke

gwleidydd Americanaidd

Mae Robert Francis "Beto" O'Rourke (ganed 26 Medi 1972) yn wleidydd Americanaidd a wasanaethodd ardal gyngresol 16eg Texas am dri thymor yn Nhŷ Cynrychiolwr yr Unol Daleithiau. Dewiswyd O'Rourke i gynrychioli'r blaid Ddemocrataidd fel enwebiad i'r etholiad seneddol yn Texas yn 2018, a collodd o drwch blewyn i Ted Cruz, cynrychiolydd y Gweriniaethwyr .[1]

Beto O'Rourke
GanwydRobert Francis O'Rourke Edit this on Wikidata
26 Medi 1972 Edit this on Wikidata
El Paso, Texas Edit this on Wikidata
Man preswylSunset Heights Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, gweithredwr mewn busnes, cerddor, person busnes, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddCynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadPat O'Rourke Edit this on Wikidata
MamMelissa O'Rourke Edit this on Wikidata
PriodAmy O'Rourke Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://betoorourke.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed O'Rourke i deulu gwleidyddol lleol yn El Paso, Texas, agraddiodd yn Woodberry Forest School a Phrifysgol Columbia. Tra'n astudio yn Columbia, cychwynnodd O'Rourke yrfa fer mewn cerddoriaeth, fel gitarydd bas yn y band 'Foss'. Ar ôl iddo raddio yn y coleg, dychwelodd i El Paso a dechrau gyrfa mewn busnes. Yn 2005, cafodd ei ethol i Gyngor Dinas El Paso, gan wasanaethu tan 2011. Etholwyd O'Rourke i Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau yn 2012 ar ôl trechu'r Democrat Silvestre Reyes a oedd wedi treulio wyth tymor yno.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Beto O'Rourke is like Obama". Cyrchwyd January 11, 2019.
  2. "Beto O'Rourke (D-Texas)". Washington Post (yn Saesneg). 25 Rhagfyr 2012. Cyrchwyd 20 Hydref 2018.