Plaid Ddemocrataidd (Unol Daleithiau)

plaid wleidyddol yn yr Unol Daleithiau

Mae'r Plaid Ddemocrataidd yr Unol Daleithiau (Saesneg: Democratic Party of the United States) yn un o'r ddwy blaid wleidyddol fwyaf yn yr Unol Daleithiau America. Y llall yw'r Blaid Weriniaethol. Mae gan yr UD hefyd sawl plaid wleidyddol lai o'r enw trydydd partïon. Gelwir cefnogwyr y blaid hon yn Ddemocratiaid.

Plaid Ddemocrataidd
Democratic Party
CadeiryddTom Perez (NY)
Arlywydd UDAJoe Biden (DE)
Is-Arlywydd UDAKamala Harris (CA)
SefydlwydIonawr 8, 1828; 196 o flynyddoedd yn ôl (1828-01-08)
Rhagflaenwyd ganPlaid Ddemocrataidd-Weriniaethol
Pencadlys430 Stryd De Capitol SE,
Washington, D.C., 20003
Asgell myfyrwyrDemocratiaid Coleg America
Democratiaid Ysgol Uwchradd America
Asgell yr ifancDemocratiaid Ifanc America
Aelodaeth  (2020)increase45,715,952
Rhestr o idiolegauMwyafrif:
 • Rhyddfrydiaeth fodern
 • Rhyddfrydiaeth gymdeithasol
Carfannau:
 • Canoli
 • Ceidwadaeth
 • Poblyddiaeth adain chwith
 • 'Blaengarwch'
 • Democratiaeth gymdeithasol
Seddi yn y Senedd
48 / 100
Seddi yn y Tŷ
221 / 435
Symbol etholiad
Gwefan
democrats.org

Gelwir y Democratiaid, hefyd weithiau'n 'chwith', 'rhyddfrydwyr' neu'n 'flaengar'. Weithiau gelwir Talaith Ddemocrataidd yn bennaf yn 'Talaith las'. Daw hyn o brif liw'r blaid, sy'n las ers 2000. Symbol y Blaid Ddemocrataidd yw'r Asyn.[1]

Bob pedair blynedd mae'r blaid yn cynnal Confensiwn Cenedlaethol lle maen nhw'n cytuno ar eu hymgeisydd am Arlywydd. Mae'r Pwyllgor Cenedlaethol Democrataidd yn cydlynu'r rhan fwyaf o weithgareddau'r Blaid Ddemocrataidd ym mhob un o'r 50 Unol Daleithiau. Bu 14 o lywyddion Democrataidd, a'r mwyaf diweddar oedd Barack Obama, a oedd yn Arlywydd rhwng 2009 a 2017. Mae'r Blaid Ddemocrataidd yn cynrychioli sbectrwm eang o ideolegau chwith, gan gynnwys rhyddfrydiaeth glasurol, democratiaeth gymdeithasol, blaengaredd a sosialaeth.

Hanes[2] golygu

 
Darlun Thomas Nast o Ionawr 1870 o'r asyn Democrataidd.

Dechreuodd y blaid hynnaf yn y byd dod i'r amlwg ddiwedd y 1820au o gyn-garfanau o'r Blaid Ddemocrataidd-Weriniaethol, a oedd wedi cwympo i raddau helaeth erbyn 1824. Fe'i hadeiladwyd gan Martin Van Buren, a gynullodd fframwaith o wleidyddion ym mhob talaith y tu ôl i'r arwr rhyfel Andrew Jackson o Tennessee. Roedd patrwm a chyflymder y ffurfiant yn wahanol o dalaith i dalaith. Erbyn canol y 1830au roedd bron pob un o bleidiau taleithiol y Ddemocrataidd yn unffurf.

Roedd Andrew Jackson o'r tu allan ac yn mynd yn erbyn yr elitaeth yn Etholiad Arlywyddol 1828. Enillodd Jackson yr Etholiad yma, yn erbyn y Gweriniaethwr Cenedlaethol John Quincy Adams, gan ddod yn Arlywydd cyntaf y blaid. Roedd nifer yn galw fe'n 'Jackass' ac felly dyna pam daeth yr asyn yn symbol y blaid, gyda Jackson yn nodi bod asynod yn symbol o "ddygnwch". A'r ôl yr ennill etholiad 1828 yn ysgubol credi'r blaid maen nhw oedd yn cynrychioli’r bobl gan ddod a'r enw Plaid Ddemocrataidd i fodolaeth.

Mi roedd dechreuad y blaid yn cael ei nodi yn un tywyll gyda gweinyddiaeth Jackson yn 1830 yn mynd ati i ddiarddel pobl frodorol America i wersylloedd ymhellach i'r gorllewin.

Roedd yna ideoleg yn y blaid yn y 1840au o ddominyddu De America i gyd gan greu gwladwriaeth o Americanwyr Gwyn drwy ddilyn 'manifest destiny'. Mi wnaeth James K Polk dilyn hyn trwyddo drwy ymestyn y wlad gan gipio Texas, Oregon ac ennill rhannau o Fecsico drwy ryfel Mecsico.

Mi roedd yna newid mawr i'r system wleidyddol ym 1860au wrth i'r Blaid Weriniaethol gael ei lansio. Roedd y Blaid Ogleddol yma, y Gweriniaethwyr, yn wrthblaid gref i'r datblygiad pellach o Gaethwasiaeth. Ar y llaw arall roedd y Democratiaid o blaid Caethwasiaeth oherwydd roedd ganddynt gefnogaeth gref yn nhaleithiau De Ddwyrain oedd o blaid caethwasiaeth.

Ar ôl i Abraham Lincon gael ei ethol yn arlywydd Gweriniaethol yn 1861, dechreuodd Rhyfel Cartref, gyda'r Taleithiau Cydffederal America yn y De ddwyrain yn erbyn y taleithiau eraill. Roedd Taleithiau Cydffedral o blaid Caethwasiaeth ac yn erbyn Lincon. Jefferson Davis, Democratiaid, oedd unig Arlywydd Taleithiau Cydffederal America.

Ar ôl y Rhyfel Cartref roedd pleidleiswyr oedd eisiau cadw eu goruchafiaeth gwyn yn y De-ddwyrain yn erbyn y Blaid Gwerinaethol. Felly mi wnaeth y Blaid Democrataid addewid i gyfyngu ymyriadau llywodraeth ffederal a fydd yn cyfyngu ar hawlaiau pobl du.

Yn ystod 1870au-1890au mi wnaeth y blaid ennill nifer o seddi yn deddwrfa taleithol a lleol gan scirhau dirwasgiad parhaus ar hawliau pobl du.

Yn yr ugainfed ganrif mi wnaeth y blaid dechrau newid gan dod yn blaengar (Progressive), roedd diwygwyr o fewn y blaid wedi dechrau siapio'r blaid i rheoleiddio busnesau mawr gan gwella bywydau pobl cyffredin. Mi wnaeth Woodrow Wilson ennill etholiad Arlywyddol 1912 gan sicrhau rhoi'r agenda blaengar mewn i weithred yn erbyn y blaid weriniaethol. Roedd y blaid amser hynny yn blaid ar gyfer busnes.

Ond yn ystod y Dirwasgiad Mawr o'r 1930au mi wnaeth Arlywydd Franklin D. Roosevelt creu'r 'bargen newydd' rhwng 1933 a 1939. Dyma becyn o brosiectau llywodraethol domestig a oedd ar y pryd y fwyaf o'i math mewn hanes America. Mi wnaeth hwn cynyddu maint lywodraeth gan greu llywodraeth oedd yn ymyrryd ar fywydau pobl er gwell.

 
Arlywydd cyntaf Democataidd Andrew Jackson

Erbyn 1950au roedd y blaid dal i fod yn rhanedig ar ran hil, gydag aelodau yn y De oedd o blaid arwahanu a diwygwyr rhyddfrydig yn ceisio ei diddymu. Cafodd hyn ei uwcholeuo yn 1964 pan wnaeth y Senedd bleidleisio'r ddeddf hawliau sifil gwrth arwahanu. Roedd y diwygwyr wedi llwyddo i droi mwyafrif o'r aelodau i fod o blaid y ddeddf er roedd aelodau De Ddwyrain yn gwrthwynebu.

Mi wnaeth y diwygiad hwn i fod o blaid cyfiawnder cymdeithasol a rhyddfrydiaeth gymdeithasol achosi newid mawr mewn patrwm pleidleisio. Gwelwyd cynyddiad parhaus pleidleiswyr Du yn pleidleisio dros y Blaid Ddemocrataidd yn ogystal ag pobl gwyn deheuol yn troi at y Gweriniaethwyr ar ôl blynyddoedd o gefnogi'r Blaid Ddemocrataidd. Gwnaeth y blaid gweld cwymp mewn poblogrwydd yn yr ardaloedd hynny.

Rhwng 1968 a 1988 dim ond un Arlywydd Democratiaid cafodd ei ethol sef Jimmy Carter yn 1976.

Mae'r Democratiaid hefyd wedi ennill y bleidlais boblogaidd yn 2000 a 2016, ond wedi colli'r Coleg Etholiadol gydag Al Gore a Hillary Clinton, yn y drefn honno.

Cafodd Barack Obama ei ethol yn Arlywydd Du cyntaf Unol Daleithiau yn 2008, gyda nifer yn nodi mae oherwydd cefnogaeth pleidleiswyr aml diwylliannol America (Sbaenaidd a BAME) cafodd Obama ei ethol am ddau dymor.

Yn ras arlywyddol 2016, dewisodd y Democratiaid Hillary Clinton fel eu henwebai, y tro cyntaf i blaid fawr yn yr Unol Daleithiau gael menyw ar frig ei thocyn arlywyddol. Er gwaethaf ennill y bleidlais boblogaidd gan bron i dair miliwn o bleidleisiau, methodd Clinton â chymryd digon o daleithiau yn y coleg etholiadol, ac enillwyd yr arlywyddiaeth gan y Gweriniaethwr Donald J. Trump. Ar ben hynny, cadwodd y Blaid Weriniaethol reolaeth ar ddwy siambr y Gyngres yn etholiad 2016. Tan y tymor canol ddwy flynedd yn ddiweddarach, pan enillwyd y Democratiaid y Tŷ yn yr hyn a ddisgrifiodd rhai fel “ton las.”[3]

Dosbarthiad yn yr UDA ac athroniaeth golygu

Mae'r blaid yn cael cefnogaeth helaeth yn daleithiau ar ochor Gorllewin y wlad a'r Arfordir y Môr Tawel, y Gogledd Ddwyrain, Dinasoedd fel D.C ac Efrog Newydd. Gelwir yr ardaloedd yma yn 'Wal Las', dyma 18 o daleithiau'r Unol Daleithiau ac Ardal Columbia ac enillwyd gan y Blaid Ddemocrataidd yn gyson mewn etholiadau arlywyddol rhwng 1992 a 2012. Ond gwelwyd 3 Talaith yn pleidleisio dros Donald Trump (Weriniaethol) yn 2016.

Mae Democratiaid yn credu mewn llywodraeth gref gyda rhaglenni cymorth cymdeithasol i helpu aelodau o gymdeithas. Mae'n well ganddyn nhw atebion diplomyddol i wrthdaro, ac maen nhw'n arddel safbwynt amddiffynnol yn gyffredinol ar fasnach, gan gredu bod yn rhaid rheoleiddio masnach i amddiffyn gweithwyr Americanaidd.

Yn gymdeithasol, mae'r rhan fwyaf o Ddemocratiaid yn credu mewn rhyddfrydiaeth gymdeithasol, gan fod o blaid mewnfudo, priodas hoyw, a safbwyntiau o blaid dewis erthyliad. [4] [5] [6] [7]

Credoau Democrataidd cyfredol golygu

Yn gyffredinol mae Democratiaid yn cefnogi :

  • Treth incwm blaengar
  • Trethi corfforaethol uwch ac ail-ddal incwm o elw tramor
  • Gwario ar fusnes, addysg, seilwaith, ynni glân
  • Ehangu gwariant ar raglenni'r llywodraeth
  • Ehangu hawliau i Erthyliad
  • Cyfyngiadau ar ddefnyddio arfau a defnyddwyr a allai fod yn beryglus trwy oruchwyliaeth y llywodraeth
  • Gofal iechyd cyffredinol

Arlywyddion Democrataidd yr UDA golygu

Arlywyddion yn ystod y 19eg ganrif
 
Arlywydd Franklin Roosevelt
Arlywyddion yn ystod yr 20g
 
Arlywydd Barack Obama
Arlywyddion yn ystod yr 21ain ganrif

Cyn Ddemocratiaid golygu

 
Roedd y Gweriniaethwr Ronald Reagan ar un adeg yn Ddemocrat

Cyfeiriadau golygu

  1. see "History of the Democratic Donkey"
  2. From white supremacy to Barack Obama: The history of the Democratic Party, Vox(Ar Youtube), 7 Tachwedd 2016
  3. "Democratic Party | History, Definition, & Beliefs". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-30.
  4. Paul Starr. "Center-Left Liberalism". Princeton University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 3, 2015. Cyrchwyd June 9, 2014.
  5. Frumin, Aliyah (November 25, 2013). "Obama: 'Long past time' for immigration reform". MSNBC.com. Cyrchwyd January 26, 2014.
  6. "Changing Views on Social Issues" (PDF). April 30, 2009. Cyrchwyd May 14, 2009.
  7. "Pew Research Center. (May 10, 2005). Beyond Red vs. Blue, p. 1 of 8". 2005-05-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 8, 2012. Cyrchwyd July 12, 2007.
  8. Tom Murse (July 20, 2019). "Was Donald Trump a Democrat?". ThoughtCo. Cyrchwyd September 13, 2019.

Dolenni allanol golygu