Betty Boothroyd

gwleidydd, hunangofiannydd (1929-2023)

Roedd Betty Boothroyd, Barwnes Boothroyd, OM , yn wleidydd Prydeinig (8 Hydref 192926 Chwefror 2023) a wasanaethodd fel Aelod Seneddol (AS) dros West Bromwich a Gorllewin West Bromwich rhwng 1973 a 2000. Hi oedd y fenyw gyntaf i wasanaethu fel Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, [1]rhwng 1992 a 2000. [2] Eisteddodd Boothroyd yn ddiweddarach fel arglwydd traws-fainc yn Nhŷ'r Arglwyddi . [3]

Betty Boothroyd
Ganwyd8 Hydref 1929 Edit this on Wikidata
Dewsbury Edit this on Wikidata
Bu farw26 Chwefror 2023 Edit this on Wikidata
Addenbrooke's Hospital Edit this on Wikidata
Man preswylCaergrawnt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethgwleidydd, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
SwyddLlefarydd Tŷ'r Cyffredin, Aelod Senedd Ewrop, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Chairman of Ways and Means, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Chancellor of the Open University Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur, Annibynnwr Edit this on Wikidata
TadBen Archibald Boothroyd Edit this on Wikidata
MamMary Butterfield Edit this on Wikidata
Gwobr/auGradd er anrhydedd o Brifysgol Leeds, Urdd Teilyngdod Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar golygu

Cafodd Boothroyd ei geni yn Dewsbury, Swydd Efrog, yn 1929, yn ferch i Ben Archibald Boothroyd (1886-1948) a'i ail wraig Mary ( née Butterfield, 1901-1982), y ddau yn weithwyr tecstilau. Cafodd ei addysg yn ysgolion y cyngor ac aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Masnach a Chelf Dewsbury ( Coleg Kirklees). Rhwng 1946 a 1952, bu'n gweithio fel dawnsiwr, fel aelod o gwmni dawnsio Tiller Girls, [4] gan ymddangos am gyfnod byr yn y Paladiwm Llundain.[5]

Yn yr 1950au, bu Boothroyd yn ysgrifennydd i'r ASau Llafur Barbara Castle [6] a Geoffrey de Freitas.[7] Ym 1960, teithiodd i'r Unol Daleithiau i weld ymgyrch Kennedy . Dechreuodd weithio yn Washington DC fel cynorthwydd deddfwriaethol i Gyngreswr Americanaidd, Silvio Conte. Dychwelodd i Lundain ac wedyn parhaodd â'i gwaith fel ysgrifennydd i wleidyddion Llafur, yn gynnwys Harry Walston . [8] Ym 1965, cafodd ei hethol i sedd ar Gyngor Bwrdeistref Hammersmith, lle y bu hyd 1968. [9][10]

Cafodd Boothroyd ei ethol yn Aelod Seneddol (AS) dros West Bromwich mewn isetholiad yn 1973. [9]

Cyfeiriadau golygu

  1. Morris, Sophie (27 Chwefror 2023). "Baroness Boothroyd, first female Speaker of the House of Commons, has died aged 93" (yn Saesneg). Sky News. Cyrchwyd 27 Chwefror 2023.
  2. "Miss Betty Boothroyd". Hansard. Cyrchwyd 13 May 2021.
  3. "Parliamentary career for Baroness Boothroyd – MPs and Lords – UK Parliament" (yn Saesneg). Parliament of the United Kingdom. Cyrchwyd 13 Mai 2021.
  4. "Betty Boothroyd: To Parliament and beyond". BBC. 24 Hydref 2001. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 May 2009. Cyrchwyd 21 Ionawr 2009.
  5. "Betty Boothroyd Biography |" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2019.
  6. "Baroness Boothroyd". UK Parliament Website (yn Saesneg). Parliament of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2016. Cyrchwyd 19 Chwefror 2016.
  7. Political Correspondent (9 November 1957). "Sir Victor Raikes Resigns Seat". The Times.
  8. Betty Boothroyd Autobiography Paperback – 3 Oct 2002 (synopsis). Nodyn:ASIN.
  9. 9.0 9.1 "Exhibition: Betty Boothroyd". Open University. Cyrchwyd 3 Mai 2022.
  10. "London Borough Council Elections 7 May 1964" (PDF). London Datastore (yn Saesneg). London County Council. Cyrchwyd 3 Mai 2022.