Bhatarsaigh
Ynys yn Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Bhatarsaigh (Saesneg: Vatersay). Bhatarsaigh yw enw'r unig bentref ar yr ynys hefyd. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 94.
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 90 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Barra Isles |
Sir | Ynysoedd Allanol Heledd |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 960 ha |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Sea of the Hebrides |
Cyfesurynnau | 56.9306°N 7.5394°W |
Cod OS | NL635955 |
Bhatarsaigh yw ynys boblog fwyaf gorllewinol yr Alban. Fe'i cysylltir ag ynys Barra gan gob a adeiladwyd yn 1991. Ceir caer o Oes yr Haearn ar yr ynys. Ar 28 Medi 1853, drylliwyd y llong Annie Jane, oedd yn cario mewnfudwyr o Lerpwl i Montreal, ar greigiau'r ynys. Boddwyd 350 o'r 450 o bobl oedd arni.