Agor y brif ddewislen

Lerpwl

dinas yng Nglannau Merswy, Lloegr

Dinas yng ngogledd-orllewin Lloegr ydyw Lerpwl (Saesneg: Liverpool) ar lannau afon Merswy. Sefydlwyd Lerpwl fel dinas gan y brenin Seisnig John I yn 1207 gyda dim ond 500 o bobl, ac arhosodd yn gymharol fach tan ddechrau'r Chwyldro Diwydiannol; ar un adeg, oherwydd fod yma cymaint o Gymry Cymraeg, fe elwid y lle yn "Brifddinas Gogledd Cymru". Tyfodd drwy ddatblygu dociau enfawr. Un ffynhonnell sylweddol o arian oedd y masnach mewn caethweision o'r Affrig a cheir arddangosfa ar hyn lawr yn y dociau. Poblogaeth Lerpwl ydyw 439,473 (Cyfrifiad 2001).

Lerpwl
Liverpool Montage.jpg
Coat of arms of Liverpool City Council.png
Math dinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth 513,441 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1207 (dyddiad Gregoraidd cyn 1584) Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Joe Anderson Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00, UTC+01:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Sir Liverpool, Swydd Gaerhirfryn Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 111,840,000 m² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 70 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.42°N 3°W Edit this on Wikidata
Cod postEdit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Joe Anderson Edit this on Wikidata

Heddiw y ddinas ydyw ardal canalog Glannau Merswy (Saesneg: Merseyside). Yr ardaloedd eraill ydyw Knowsely, Sefton, St. Helens a Chilgwri (Saesneg: Wirral). Mae pobl tu allan i Lannau Merswy yn aml yn defnyddio 'Lerpwl' (mewn ffordd anghywir) i ddisgrifio'r holl ardal.

Adnabyddir poblogaeth Lerpwl fel 'Scousers' ar ôl y cawl cynhenid o'r enw 'scouse' (sy'n debyg i gawl Cymreig. Symbol Lerpwl ydyw aderyn sy'n edrych yn debyg i filidowcar o'r enw Liver Bird (ynghanir fel 'Laifr'). Hen enw Gymraeg ar y ddinas yw Llynlleifiad. Mae rhai yn tybio mai hyn yn cyfeirio at yr aderyn 'Lleifr', hen enw am fildowcar. Os felly, 'Llyn y Bilidowcar' yw enw'r ddinas. Ond mae yna llawer o theoriau eraill am darddiad yr enw - does neb yn siŵr o ble y daeth.

Roedd yn brifddinas answyddogol i Ogledd Cymru am gyfnod maith ac mae llawer o'r boblogaeth presennol o gefndir Gymreig. Surodd y berthynas rhwng Cymru a Lerpwl pan foddwyd Capel Celyn a Chwm Tryweryn gan Gorfforaeth Lerpwl ym 1965 er mwyn creu cronfa dŵr i gyflenwi dŵr i'r ddinas. Dywed rhai nad oedd angen boddi'r cwm o gwbl[1].

Mae nofel Marion Eames Hela Cnau yn rhoi hanes dynes ifanc a aeth i weini o Ogledd Cymru i Lerpwl.

Diwylliant a ChwaraeonGolygu

Mae Lerpwl yn enwog am ddau dîm bêl-droed, Lerpwl ac Everton.

Lerpwl oedd Dinas Diwylliant Ewrop 2008.

Eisteddfod GenedlaetholGolygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Lerpwl ym 1884, 1900 a 1929. Am wybodaeth bellach gweler:

Adeiladau ac adeiladwyrGolygu

 
Plac ar wal hen gapel ar gornel Edge Lane a Bradfield Street, Lerpwl.

Un o bensaeri enwocaf y ddinas oedd Richard Owen (1831 - 24 Rhagfyr 1891).

Roedd yn un o benseiri mwyaf toreithiog capeli Cymreig[2] a thai teras yn Lerpwl. Yn ôl yr hanesydd Dan Cruickshank Roedd Owens mor llwyddiannus gallai bod yn gyfrifol am (gynllunio) mwy o dai teras yng ngwledydd Prydain Oes Victoria na neb arall.[3]

Dyma rai o'r capeli a gynlluniodd:



TrafnidiaethGolygu

 
Gorsaf reilffordd Lime Street Lerpwl

RheilffyrddGolygu

Gorsaf reilffordd Lime Street Lerpwl yw'r brif orsaf sydd yn cysylltu Lerpwl gyda gweddill Lloegr a'r Alban. Mae trenau trydanol yn mynd o Lerpwl i Birmingham a Llundain ers 1 Ionawr 1962[4]. Cwblhawyd trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Lerpwl a Manceinion ym Mai 2015. Mae gwasanaethau lleol yn cysylltu'r orsaf a Warrington, Preston a Wigan. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am wasanaethau rhwng Lerpwl, Caer a Wrecsam trwy Runcorn ers 19eg Mai 2019.[5]

 
Gorsaf Merseyrail Moorfields

MerseyrailGolygu

Mae gwasanaethau ar y Llinell Gogleddol yn gweithredu o Hunts Cross yn y de o Lerpwl, drwy dwnnel o orsaf Brunswick drwy Lerpwl Canolog a Moorfields, i Southport. Mae gwasanaethau hefyd yn rhedeg o Lerpwl Canolog i Ormskirk a Kirkby.

Mae gwasanaethau ar y Llinell Cilgwri yn gweithredu o'r ddolen drwy Dwnnel Reilffordd Merswy i orsaf Hamilton Square ym Mhenbedw. Oddi yno, naill ai eu bod yn rhedeg i'r de i Hooton, lle maent yn parhau i naill ai Gaer neu Ellesmere Port, neu i'r gorllewin i ogledd Benbedw, lle mae'r llinell yn rhannu i New Brighton a West Kirby.

Mae trenau’r Llinell y Ddinas i gyd yn gadael Lime Street, ac yn mynd at Wigan neu at Fanceinion, Caer a Wrecsam neu Gryw; maent yn wasanaethau rheilffyrdd eraill yn hytrach na threnau Merseyrail.

 
Royal Iris

FferiauGolygu

Mae gwasanaeth fferi rhwng Lerpwl a Seacombe, trefnir gan Mersey Ferries. Mae hefyd taith 50 munud ar Afon Merswy[6]

GefeilldrefiGolygu

Preswylyddion enwogGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. [1]
  2. Capeli Cymru: Richard Owens adalwyd 31 Mai 2016
  3. BBC 4 Dan Cruickshank: At Home with the British Pennod dau The Terrace, darlledwyd gyntaf 26 Mai 2016
  4. Cadwallader & Jenkins 2010, t. 56
  5. Gwefan Trafnidiaeth Cymru
  6. Gwefan Mersey Ferries

Gweler hefydGolygu

Dolennau allanolGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Glannau Merswy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato