Bibliothèque nationale de France
llyfrgell genedlaethol Ffrainc, a leolir ym Mharis
Llyfrgell genedlaethol Ffrainc yw'r Bibliothèque nationale de France (BnF), a leolir ym Mharis. Ynghyd â'r Llyfrgell Brydeinig yn Llundain, mae'n un o ddwy lyfrgell fwyaf Ewrop.[1] Yn 2024, roedd 16 miliwn o lyfrau a chyfnodolion yno, ynghyd ag amryw o gasgliadau eraill.[2] Mae'r sefydliad yn tarddu'n ôl i lyfrgell breifat Siarl V, brenin Ffrainc.[3] Agorodd y llyfrgell i'r cyhoedd am y tro cyntaf yn 1692, ac ers 1793 mae wedi dal copi o bob llyfr a gaiff ei gyhoeddi yn Ffrainc.[1] Rhwng 1996 a 1998 symuodd nifer o gasgliadau i safle newydd a elwir yn safle "François Mitterrand" ar ôl yr arlywydd a'i gomisiynodd;[3] mae'r safle hyn bellach yn dwyn yr enw "Safle Richelieu".[1]
Math | llyfrgell genedlaethol, cyhoeddwr, bibliographic database |
---|---|
Enwyd ar ôl | François Mitterrand |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Paris |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 48.8336°N 2.3758°E |
Rheolir gan | Bibliothèque nationale de France |
Oriel
golygu
|
Cyfieiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Gray-Durant, Delia (2007). Blue Guide Paris. Llundain: Somerset Books. tt. 241–2.CS1 maint: ref=harv (link)
- ↑ "La BnF en chiffres | BnF - Site institutionnel". web.archive.org. 2023-09-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-09-11. Cyrchwyd 2024-02-25.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ 3.0 3.1 (Ffrangeg) De la Librairie royale à la BnF. Bibliothèque nationale de France. Adalwyd ar 12 Tachwedd 2014.
Dolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol