Bill Gates
William Henry Gates III (ganed 28 Hydref 1955) neu Bill Gates yw cyd-sylfaenydd a phennaeth cwmni cyfrifiadurol Microsoft. Mae'n un o bobl cyfoethocaf yn y byd ers 1987. Gadawodd Brifysgol Harvard heb raddio er mwyn dilyn ei freuddwyd o greu meddalwedd gyfrifiadurol. Oherwydd ei ddulliau dadleuol o hybu llwyddiant Microsoft drwy sathru ar unrhyw gystadleuaeth a cheisio creu monopoli i'w gynnyrch, mae wedi ennyn cryn dipyn o feirniadaeth ar hyd y blynyddoedd; ond dywed ei bleidwyr ei fod yn ddyngarwr.
Bill Gates | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 28 Hydref 1955 ![]() Seattle ![]() |
Man preswyl | Medina, Washington ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | entrepreneur, rhaglennwr, gwyddonydd cyfrifiadurol, dyfeisiwr, ariannwr, bridge player, buddsoddwr, actor, dyngarwr, ysgrifennwr, cyfranogwr fforwm rhyngwladol ![]() |
Swydd | prif weithredwr ![]() |
Cyflogwr | |
Taldra | 1.77 metr ![]() |
Tad | Bill Gates Sr. ![]() |
Mam | Mary Maxwell Gates ![]() |
Priod | Melinda Gates ![]() |
Plant | Jennifer Katherine Gates, Phoebe Adele Gates, Rory John Gates ![]() |
Gwobr/au | KBE, Medal Cenedlaethol Technoleg ac Arloesedd, Padma Bhushan, Croes Cydnabyddiaeth, Gwobr Lasker-Bloomberg gwasanaeth cyhoeddus, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Fulbright Prize, Silver Buffalo Award, Cymrawd Neilltuol Cymdeithas Gyfrifiaduron, Prydain, Gwobr Poblogaeth y Cenhedloedd Unedig, Urdd Eryr Mecsico, Uwch groes Urdd Infante Dom Henri, Medel Lles y Cyhoedd, Commander of the Order of the Star of Romania, Commandeur de la Légion d'honneur, Medal Benjamin Franklin, honorary doctor of the Tsinghua University, honorary doctor of Royal Institute of Technology, Honorary Doctor at Karolinska Institutet, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, Grand Cordon of the Order of the Rising Sun, Financial Times Person of the Year ![]() |
Gwefan | http://www.thegatesnotes.com/ ![]() |
Chwaraeon | |
Llofnod | |
Delwedd:Bill Gates signature.svg, Bill Gates signature (short).svg |
Ers gadael gwaith dydd-i-ddydd gyda Microsoft yn 2008 mae wedi gweithio ar brosiectau dyngarol gyda'i sefydliad Bill & Melinda Gates Foundation. Yn 2009, gyda Warren Buffett, ymrwymodd i roi o leia hanner ei gyfoeth i achosion da.
