Microsoft
Cwmni cyfrifiadurol ydy Microsoft. Mae prif swyddfa'r cwmni yn Redmond, Washington State yn yr Unol Daleithiau, ond mae swyddfeydd gyda nhw yng ngwledydd eraill hefyd. Steve Balmer yw pennaeth y cwmni, ar ôl i Bill Gates ymddeuol yn haf 2008. Maent yn enwog am fod un o'r cwmnïau fwyaf llwyddiannus y byd cyfrifiadurol.
![]() | |
Math | busnes |
---|---|
Math o fusnes | cwmni cyhoeddus |
ISIN | US5949181045 |
Diwydiant | y diwydiant technoleg, y diwydiant meddalwedd |
Sefydlwyd | 4 Ebrill 1975 |
Sefydlydd | Bill Gates, Paul Allen |
Pencadlys | Redmond, Washington |
Pobl allweddol | Steve Ballmer (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | Microsoft Windows |
Refeniw | 198,270,000,000 $ (UDA) (2022) |
Incwm gweithredol | 83,383,000,000 $ (UDA) (2022) |
Cyfanswm yr asedau | 333,779,000,000 $ (UDA) (30 Mehefin 2021) |
Perchnogion | The Vanguard Group (0.078), BlackRock (0.066), Bill Gates (0.0134), BlackRock (0.03), Bill Gates (0.04), The Vanguard Group (0.06), Capital Group Companies (0.05), State Street Corporation (0.04), Steve Ballmer (0.04) |
Nifer a gyflogir | 181,000 (30 Mehefin 2021) |
Rhiant-gwmni | NASDAQ-100, S&P 500 |
Is gwmni/au | Xbox Game Studios |
Lle ffurfio | Albuquerque |
Gwefan | https://www.microsoft.com/, https://www.microsoft.com/en-gb, https://www.microsoft.com/de-de/ ![]() |

Wedi ei sefydlu ym 1975, Microsoft yw'r arweinwyr byd-eang mewn meddalwedd, gwasanaethau ac atebion sy'n helpu pobl a busnesau i gyflawni eu holl potensial.
Ei gynnyrch enwocaf yw Microsoft Windows, sydd ar gael mewn sawl fersiwn yn cynnwys Windows XP a Windows Vista; dyma'r system mwyaf poblogaidd o bell ffordd ar gyfer y Cyfrifiadur Personol (PC). Mae'r meddalwedd ar gael yn Gymraeg o wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae cynnyrch poblogaidd eraill yn cynnwys y porwr gwe Internet Explorer a Microsoft Office, rhaglennu sydd yn boblogaidd iawn ar ledled y byd. Gellir hefyd defnyddio "Spell Check" Cymraeg fel ychwanegiad i Microsoft Office, sydd ar gael ar wefan Microsoft.[1]
Mae gan Microsoft nifer o gwmnïau gemau, ac mae ganddynt hanes o ryddhau gemau poblogaidd (e.e. Cyfres Age Of Empires efo Ensemble Studios.) Yn dilyn hyn rhyddhawyd y systemau gemau Xbox (2002) a Xbox 360 (2005).
