Bill Irwin
Actor Americanaidd, digrifwr a chlown yw William Mills "Bill" Irwin (ganed 11 Ebrill 1950).[1] Mae'n fwyaf enwog am arddull vaudeville ei berfformiadau a chaiff ei gyfri'n un sydd wedi sbarduno oes aur y syrcas Americanaidd yn y 1970au. Mae hefyd wedi amddangos mewn nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu, ac enillodd 'Wobr Tony' am ei berfformiad yn Who's Afraid of Virginia Woolf yn Broadway.
Bill Irwin | |
---|---|
Ganwyd | 11 Ebrill 1950 Santa Monica |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | perfformiwr mewn syrcas, cyfarwyddwr theatr, clown, actor llwyfan, actor ffilm, meimiwr, actor, digrifwr, dramodydd, actor teledu, sgriptiwr |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Cymrodoriaeth MacArthur, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Bessie Award |
Gwefan | http://www.bill-irwin.com/ |
Caiff ei adnabod gan blant fel 'Mr. Noodle' yn un o ragleni Sesame Street, sef Elmo's World.[2]
Ffilmiau / Teledu
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Isherwood, Charles (4 Mawrth 2013). "Aging Clowns and Brand-New Gags: 'Old Hats,' With Bill Irwin and David Shiner". New York Times. Cyrchwyd 8 Ebrill 2013.
- ↑ Gussow, Mel (11 Mai 2008). "How to Deal With Midlife: Keep Dancing". New York Times. Cyrchwyd 8 Ebrill 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am actor o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.