Actor sy'n defnyddio dim ond ystumiau, symudiadau ac edrychiadau yn y theatr neu yng nghyd-dedstun celf berfformio yw meimiwr neu meimwraig. Mae meimiwyr yn arbenigo mewn actio straeon trwy symudiadau corfforol yn unig, heb lefaru.

Meimiwr
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth, galwedigaeth Edit this on Wikidata
Mathactor, perfformiwr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae perfformio fel hyn yn draddodiad hynafol, ac mae'n dyddio'n ôl i theatr Groeg yr Henfyd a Rhufain hynafol.[1][2] Defnyddir y dechneg gan nifer o draddodiadau a diwylliannau ledled y byd, er enghraifft mewn theatr Indiaidd (yn benodol Kathakali), a drama Japaneaidd Noh.

Yn dilyn llwyddiant y meimiwr mwyaf blaenllaw yn yr oes fodern, sef Marcel Marceau, daeth meim yn fath boblogaidd o theatr stryd mewn sawl gwlad.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Mime and pantomime - visual art". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Tachwedd 2019.
  2. H Nettleship (gol.), A Dictionary of Classical Antiquities (London 1894) p. 393 (Saesneg)