Billboard Hot 100

Siart boblogrwydd senglau cyffredin diwydiant cerddorol yr Unol Daleithiau ydy'r Billboard Hot 100. Darperir y siart yn wythnosol gan gylchgrawn Billboard. Seilir safleoedd yn y siart ar y nifer o weithiau y caiff cân ei chwarae ar y radio yn ogystal ag ar werthiant; dechreua'r wythnos ar gyfer gwerthiant ar ddydd Llun a daw i ben ar ddydd Sul; tra bod yr wythnos ar gyfer chwarae caneuon ar y radio yn mynd o ddydd Mercher tan ddydd Mawrth. Caiff siart newydd ei choladu a'i rhyddhau'n swyddogol i'r cyhoedd gan Billboard ar ddydd Iau. Caiff pob siart ei dyddio gyda dyddiad "wythnos-yn-gorffen" sef y dydd Sadwrn canlynol. Er enghraifft:

  • Dydd Llun, 1 Ionawr – dechreua wythnos tracio-gwerthiant
  • Dydd Mercher, 3 Ionawr – dechreua wythnos tracio caneuon ar y radio
  • Dydd Sul, 7 Ionawr – diwedda wythnos tracio gwerthiant
  • Dydd Mawrth, 9 Ionawr – diwedda wythnos tracio caneuon ar y radio
  • Dydd Iau, 11 Ionawr – rhyddheuir y siart newydd, gyda dyddiad rhyddhau o ddydd Sadwrn, 20 Ionawr
Billboard Hot 100
Enghraifft o'r canlynolSiart recordiau Edit this on Wikidata
CyhoeddwrBillboard Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1958 Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.billboard.com/charts/hot-100 Edit this on Wikidata

Y gân gyntaf i gyrraedd brig y siart Hot 100 oedd "Poor Little Fool" gan Ricky Nelson ar 4 Awst 1958.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.