Roedd William "Billy" Purdon Geen (14 Mawrth 189131 Gorffennaf 1915) yn asgellwr a chanolwr rygbi'r undeb a gynrychiolodd Gymru ac a oedd yn chwarae gyda chlybiau Prifysgol Rhydychen a Chasnewydd ac i Sir Fynwy. Derbyniodd wahoddiadau i chwarae i'r Barbariaid lawer gwaith hefyd. Bu'n aflwyddiannus mewn rhagbrofion i chwarae i Loegr yn 1910, ond cafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru ar dri achlysur yn ystod tymor 1912-13. Cafodd ei rwystro rhag chwarae mewn rhagor o gemau rhyngwladol gan anaf, a daeth ei yrfa i ben yn ddisymwth pan lladdwyd ef ar faes y gad yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Billy Geen
Ganwyd14 Mawrth 1891 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw31 Gorffennaf 1915 Edit this on Wikidata
Hooge Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, cricedwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auY Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Prifysgol Rhydychen Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr Edit this on Wikidata

Disgleiriodd Geen fel athletwr yn Rhydychen, gan ennill dair "Blue" rhwng 1910 ac 1912. Ond, mewn tair gem brifysgol yn olynol, methodd sgorio oherwydd iddo ollwng y bell dros y llinell gais. Yn ystod y gwyliau, byddai'n chwarae i Gasnewydd, ac roedd yn aelod o'r tim a drechodd Dde Affrig oedd ar daith yn 1912-13. Roedd hefyd yn gricedwr abl ac yn cadw'r wiced i 'Authentics' Prifysgol Rhydychen a Sir Fynwy.

Cafodd Geen ei gomisiynu'n ail is-gapten gyda 9fed Corfflu Reiffl Brenhinol yn Awst 1914 a'i anfon i'r Ffrynt Orllewino ym Mai 1915. Cafodd ei ladd ar faes y gad yn Hooge, Gwlad Belg. Mae wedi ei goffau ar beneli 51 a 53 ar gofeb Gat Menin yn Ypres, Gwlad Belg.

Ymddangosiadau rhyngwladol dros Gymru

golygu
Gwrthwynebwyr Sgor Canlyniad Dyddiad Lle
  De Affrica 0–3 Colli 14 Dec 1912 Cardiff
  Lloegr 0–12 Colli 18 Jan 1913 Cardiff
  Iwerddon 16–13 Ennill 8 March 1913 Swansea

Darllen pellach

golygu
  • "William Purdon Geen". History of Newport RFC. Friends of Newport Rugby Trust. Cyrchwyd 11 July 2015.
  • Prescott, Gwyn (2014). Call Them to Remembrance: The Welsh Rugby Internationals Who Died in the Great War. Welsh Academic Press. ISBN 9781902719375. OCLC 886886160.
  • Renshaw, Andrew, gol. (2014). Wisden on the Great War: The Lives of Cricket's Fallen 1914–1918. A&C Black. ISBN 9781408832363.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau

golygu