Billy Graham
Efengylydd Cristnogol oedd William Franklin Graham, Jr. OBE, a adnabyddwyd fel Billy Graham (7 Tachwedd 1918 – 21 Chwefror 2018). Rhoddodd cyngor ysbrydol i sawl Arlywydd yr Unol Daleithiau ac fe ddaeth yn seithfed ar restr Gallup o'r bobl gafodd eu hedmygu fwyaf yn ystod yr 20g. Roedd yn perthyn i enwad Bedyddwyr y De.
Billy Graham | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
William Franklin Graham ![]() 7 Tachwedd 1918 ![]() Charlotte ![]() |
Bu farw |
21 Chwefror 2018 ![]() Achos: canser ![]() Montreat ![]() |
Dinasyddiaeth |
Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
diwinydd, hunangofiannydd, clerig ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Plaid Ddemocrataidd ![]() |
Priod |
Ruth Graham ![]() |
Plant |
Franklin Graham, Anne Graham Lotz ![]() |
Gwobr/au |
KBE, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gospel Music Hall of Fame, Gwobr Templeton, Ronald Reagan Freedom Award, Medal Aur y Gyngres, Gwobr Horatio Alger ![]() |
Gwefan |
http://www.billygraham.org/ ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Dywedir bod Graham wedi pregethu'n fyw i fwy o bobl o amgylch y byd nag unrhyw un arall erioed. Hyd at 1993, roedd mwy na 2.5 miliwn o bobl wedi ymateb i'w apel yn ei ymgyrchoedd i "dderbyn Iesu Grist fel eu gwaredwr personol". Hyd at 2002, roedd ei gynulleidfa gydol oes, gan gynnwys darllediadau radio a theledu, wedi cynyddu i dros 2,000 miliwn.
Bu farw yn 99 oed.[1]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Yr efengylwr, Billy Graham wedi marw , Golwg360, 21 Chwefror 2018.