Mae BitTorrent yn brotocol i rannu ffeiliau mewn modd cyfoed-i-gyfoed dros y rhyngrwyd. Mae'n un o'r ffyrdd mwyaf cyffredin i drosglwyddo ffeiliau mawr.

BitTorrent
Enghraifft o'r canlynolcomputer network protocol, peer-to-peer Edit this on Wikidata
Mathcommunication protocol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2001 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.bittorrent.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cafodd BitTorrent ei greu gan Bram Cohen yn 2001 ac erbyn hyn mae yna nifer o gleientiaid BitTorrent ar gael ar gyfer gwahanol blatfformau cyfrifiaduron. Mae dros 100 miliwn o bobl dros y byd yn defnyddio BitTorrent.[1][2]

Disgrifiad golygu

Defnyddir BitTorrent i leihau'r effeithiau ar weinyddion a rhwydweithiau o ddosbarthu ffeiliau mawr. Yn hytrach na bod pawb yn lawrlwytho ffeil o'r un ffynhonnell, mae'r protocol BitTorrent yn caniatáu defnyddwyr i ymuno â haid o westeiwyr i lawrlwytho ac uwchlwytho gyda'i gilydd ar yr un pryd. Gall y protocol gweithio dros rwydweithiau gyda chyflymderau isel fel bod cyfrifiaduron bychan, fel ffonau symudol, yn medru dosbarthu ffeiliau i lawer o dderbynwyr.

I rannu ffeil, mae defnyddiwr yn creu ffeil torrent bach sy'n cynnwys disgrifiad o'r ffeil ac yn ei ddosbarthu mewn ffyrdd arferol, fel ar wefan neu mewn ebost. Mae yna yn gwneud y ffeil ar gael drwy ei hadu yn ei gleient BitTorrent; hwn yw'r hadwr cyntaf. Mae eraill gyda'r ffeil torrent yn ei agor yn ei gleient BitTorrent nhw, sydd yna yn cysylltu â'r hadwr a/neu gyfoedion eraill ac yn lawrlwytho'r cynnwys ganddynt.

Mae'r protocol yn trin ac yn trosglwyddo ffeiliau fel nifer o ddarnau bychan yn hytrach nac un darn cyflawn. Wedi i gyfoedion derbyn darn o ffeil, maent hefyd yn dod yn ffynhonnell o'r darn hwnnw i gyfoedion eraill ac felly yn lleihau y gofyn amdano ar yr hadwr gwreiddiol. Does dim angen felly i'r ffynhonnell wreiddiol drosglwyddo pob darn i bob lawrlwythwr na chwaith i'w trosglwyddo mewn unrhyw drefn arbennig. Gall lawrlwythwyr stopio ac ail ddechrau lawrlwytho ar unrhyw bryd heb golli'r darnau maent eisoes wedi eu derbyn, ond po fwyaf y nifer o gyfoedion sydd â'r ffeil torrent yn weithredol yn eu cleient BitTorrent ar yr un pryd, cyflymaf yn y byd y mae'r trosglwyddo rhyngddynt.

Pan mae cyfoed wedi lawrlwytho ffeil(iau) yn gyflawn, mae'n dod yn hadwr ei hun.

Cyfeiriadau golygu

  1. Carr, Austin (4 Ionawr 2011). "BitTorrent Has More Users Than Netflix and Hulu Combined--and Doubled". fastcompany.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-10. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "comScore Releases August 2010 U.S. Online Video Rankings". comscore.com. 30 September 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-16. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)