Band pync-roc Americanaidd oedd Black Flag. Hwy oedd un o'r grwpiau cyntaf o'r mudiad pync caled (hardcore) yng Nghaliffornia yn y 1980au cynnar a hefyd yn arloesol yn y genre post-hardcore. Canolbwyntiodd caneuon Black Flag ar themâu megis diflastod bywyd y maestrefi ac arwahanrwydd cymdeithasol, a chanddynt geiriau gwrth-awdurdodol. Adeiladodd y grŵp ar gerddoriaeth bync gynt megis y Ramones, gydag unawdau gitâr digywair ac amseriad hynod o gyflym. Perfformiodd ar daith gan ledu dawnsio slam a'r mosh pit, gan ddenu'r gynulleidfa i fod yn rhan o'r profiad cerddorol byw.[1][2]

Black Flag
Enghraifft o'r canlynolband roc Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Rhan oMinuteflag Edit this on Wikidata
Label recordioSST Records Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1976 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1976 Edit this on Wikidata
Genrepync caled, post-hardcore, pync-roc Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGreg Ginn, Kira Roessler, Henry Rollins Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://blackflagofficial.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sefydlwyd y grŵp gan y gitarydd Greg Ginn (1976–86) yn Hermosa Beach yn ardal Los Angeles ym 1976 dan yr enw Panic. Perfformiodd yn gyhoeddus yn gyntaf yn Rhagfyr 1977. Y flwyddyn ddilynol, newidiodd enw'r band i Black Flag oherwydd roedd grŵp arall â'r enw Panic, a bu'r perfformiad cyntaf dan yr enw hwn ar 27 Ionawr 1979. Ym 1978 sefydlwyd SST Records gan Ginn a'r gitarydd bas Chuck Dukowski (1977–83) er mwyn cyhoeddi cerddoriaeth y band, a'r sengl "Nervous Breakdown" oedd y record gyntaf i'w rhyddhau ar y label. Keith Morris (1976–9), Ron Reyes (1979–80) a Dez Cadena (1980–1) oedd cantorion cynnar y band. Ar ôl i Henry Rollins (1981–6) ymuno â Black Flag yn brif leisydd, rhyddhawyd yr albwm cyntaf Damaged ym 1981. Drymwyr y band trwy'r rhan fwyaf o'i oes oedd Robo (1978–81) a Bill Stevenson (1981–5). Daeth y band i ben ym 1986. Ailgynullodd Black Flag yn 2003, ac yn 2013 i ryddhau albwm newydd.[3]

Albymau stiwdio golygu

  • Damaged (1981)
  • My War (1984)
  • Family Man (1984)
  • Slip It In (1984)
  • Loose Nut (1985)
  • In My Head (1985)
  • What The... (2013)

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Black Flag. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Hydref 2017.
  2. (Saesneg) James Parker. Black Flag’s Psychic Imprint, The Atlantic (27 Mehefin 2016). Adalwyd ar 3 Hydref 2017.
  3. (Saesneg) Stephen Thomas Erlewine. Black Flag: Biography & History, AllMusic. Adalwyd ar 3 Hydref 2017.