Band roc o'r Unol Daleithiau a ystyrid yn aml fel y grŵp pync-roc gyntaf oedd y Ramones.[1][2] Ffurfiodd y band yn Forest Hills, Queens, Dinas Efrog Newydd, yn 1974,[2] a mabwysiadodd pob aelod enw perfformio gyda'r cyfenw "Ramone", er nad oeddent yn perthyn i'w gilydd. Perfformiant 2263 o gyngherddau tra buont yn teithio a pherfformio bron heb egwyl am 22 o flynyddoedd.[2] Yn 1996, ar ôl taith berfformio gyda'r ŵyl gerddorol Lollapalooza, canodd y band eu sioe olaf ac yna dadfyddinant. O fewn ychydig mwy nag wyth mlynedd wedi iddynt torri lan, roedd tri aelod cychwynnol y band—y prif ganwr Joey Ramone, y gitarydd Johnny Ramone, a'r gitarydd bas Dee Dee Ramone—wedi marw.[3]

Ramones
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Daeth i ben6 Awst 1996 Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Label recordioSire Records, Philips Records, Beggars Banquet Records, Radioactive Records, Chrysalis Records Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1974 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1974 Edit this on Wikidata
Genrepync-roc, pop-punk Edit this on Wikidata
Yn cynnwysJoey Ramone, Johnny Ramone, Dee Dee Ramone, Tommy Ramone, Marky Ramone, Richie Ramone, C. J. Ramone Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.ramones.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd y Ramones yn ddylanwad mawr ar y mudiad pync-roc yn yr Unol Daleithiau ac ym Mhrydain, er nad oedd eu llwyddiant masnachol yn eithriadol. Eu hunig record gyda digon o werthiannau yn yr UD i dderbyn tystysgrif aur oedd yr albwm dethol Ramones Mania.[4] Cynyddodd gydnabyddiaeth o bwysigrwydd y band dros y blynyddoedd, a heddiw fe gynrychiolant yn aml mewn nifer o asesiadau o'r gerddoriaeth roc orau erioed, megis rhestrau Rolling Stone o'r 50 Artist Gorau Erioed[5] a'r 25 Albwm Byw Gorau Erioed,[6] rhestr VH1 o'r 100 Artist Roc Galed Gorau,[7] a rhestr Mojo o'r 100 Albwm Gorau.[8] Yn 2002, fe gafodd y Ramones eu hethol fel yr ail fand roc a rôl gorau erioed gan y cylchgrawn Spin, gan golli'r prif safle i The Beatles.[9] Ar 18 Mawrth, 2002, fe gafodd y Ramones—gan gynnwys y tri sylfaenydd a'r drymwyr Marky a Tommy Ramone—eu derbyn i Neuadd Fri Roc a Rôl.[2][10]

Aelodau

golygu
(1974)
  • Dee Dee Ramone – prif lais, gitâr rythm/fas
  • Johnny Ramone – gitâr
  • Joey Ramone – drymiau
(1974)
  • Joey Ramone – prif lais, drymiau
  • Johnny Ramone – gitâr
  • Dee Dee Ramone – gitâr fas
(1974–1978)
  • Joey Ramone – prif lais
  • Johnny Ramone – gitâr
  • Dee Dee Ramone – gitâr fas, llais
  • Tommy Ramone – drymiau
(1978–1983)
  • Joey Ramone – prif lais
  • Johnny Ramone – gitâr
  • Dee Dee Ramone – gitâr fas, llais
  • Marky Ramone – drymiau
(1983–1987)
  • Joey Ramone – prif lais
  • Johnny Ramone – gitâr
  • Dee Dee Ramone – gitâr fas, llais
  • Richie Ramone – drymiau, llais
(1987)
  • Joey Ramone – prif lais
  • Johnny Ramone – gitâr
  • Dee Dee Ramone – gitâr fas, llais
  • Elvis Ramone (Clem Burke) – drymiau
(1987–1989)
  • Joey Ramone – prif lais
  • Johnny Ramone – gitâr
  • Dee Dee Ramone – gitâr fas, llais
  • Marky Ramone – drymiau
(1989–1996)
  • Joey Ramone – prif lais
  • Johnny Ramone – gitâr
  • C. J. Ramone – gitâr fas, llais
  • Marky Ramone – drymiau

Disgyddiaeth

golygu

Albymau stiwdio

golygu
Teitl Label Rhyddhawyd Safleoedd siartiau uchaf Aelodau
UD DU
Ramones Sire 23 Ebrill, 1976 111 Joey, Johnny, Dee Dee, Tommy
Leave Home Sire 10 Ionawr, 1977 148 45
Rocket to Russia Sire 4 Tachwedd, 1977 49 60
Road to Ruin Sire 22 Medi, 1978 103 32 Joey, Johnny, Dee Dee, Marky
End of the Century Sire 4 Chwefror, 1980 44 14
Pleasant Dreams Sire 29 Gorffennaf, 1981 58
Subterranean Jungle Sire Chwefror, 1983 83
Too Tough to Die Sire Chwefror, 1984 172 63 Joey, Johnny, Dee Dee, Richie
Animal Boy Sire Mai, 1986 143 38
Halfway to Sanity Sire 15 Medi, 1987 172 78
Brain Drain Sire 18 Mai, 1989 122 75 Joey, Johnny, Dee Dee, Marky
Mondo Bizarro Radioactive 1 Medi, 1992 190 87 Joey, Johnny, C. J., Marky
Acid Eaters Radioactive Rhagfyr, 1993 179
¡Adios Amigos! Radioactive 18 Gorffennaf, 1995 148 62

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) The Ramones. MTV.com. Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Ramones. Rock and Roll Hall of Fame + Museum (15 Medi, 2004). Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
  3. (Saesneg) The Ramones. MP3.com. Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
  4. (Saesneg) Ramones Raw Signing & Gold Award Presentation at Tower Records. OsakaPopstar.com. Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
  5. (Saesneg) The Immortals: The First Fifty. Rolling Stone. Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
  6. (Saesneg) Rock List: The Twenty-Five Best Live Albums: An unranked collection of incredible shows captured on record, with audio. Rolling Stone. Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
  7. (Saesneg) 100 Greatest Artists of Hard Rock. VH1.com. Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
  8. (Saesneg) Mojo Magazine's 100 Greatest Albums (August 1995 Issue). RateYourMusic.com. Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
  9. (Saesneg) 50 Greatest Bands Of All Time. Cylchgrawn Spin (Chwefror 2002). Adalwyd ar 17 Medi, 2008.
  10. (Saesneg) Vineyard, Jennifer (19 Mawrth, 2002). Vedder Rambles, Green Day Scramble As Ramones Enter Hall. VH1.com. Adalwyd ar 17 Medi, 2008.

Dolenni allanol

golygu