Blodyn tatws (enw anwes)

Enw anwes yw blodyn tatws sy’n cael ei ddefnyddio wrth siarad â phlant ac anwyliaid. Mae’n cael ei ddefnyddio yng ngogledd a gorllewin Cymru'n bennaf.

Blodyn tatws

Mae'r blodyn tatws, sef blodyn y planhigyn solanum tuberosum, yn gallu bod yn wyn, pinc, coch, glas neu borffor a briger melyn.

"Blodyn Tatws" oedd enw un o’r cymeriadau yn y rhaglen i blant Miri Mawr yn ystod y 1970au (c. 1973-78) ac enillodd Eurig Wyn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr 1998 gyda chyfrol o’r enw Blodyn Tatws.[1][2]

Roedd "Blodyn Tatws" hefyd yn deitl un o ganeuon Y Fflaps ac ymddangosodd ar eu record hir 'Amhersain' (Label Probe Plus, 1988).[3]

Cyfeiriadau

golygu