Agor y brif ddewislen

Gohebydd newyddion a gwleidydd Cymreig dros Blaid Cymru oedd Eurig Wyn (10 Hydref 194425 Mehefin 2019)[1].

Eurig Wyn
Ganwyd 10 Hydref 1944 Edit this on Wikidata
Hermon Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Mehefin 2019 Edit this on Wikidata (74 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Gwleidydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Swydd Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Cymru Edit this on Wikidata
Am y llenor gweler Eirug Wyn.

BywgraffiadGolygu

Ganwyd Eurig yn Hermon ger Crymych. Aeth i astudio yng Ngholeg Aberystwyth cyn mynd i ddysgu yng Nghaerdydd am dair blynedd.[2]

Yna ymunodd a'r BBC gan weithio fel gohebydd chwaraeon ac yn ddarllenwr newyddion ar y rhaglen Heddiw. Symudodd wedyn i fyd gwleidyddiaeth. Roedd yn cynrychioli ward Waunfawr ar Gyngor Gwynedd nes penderfynu ildio'r awenau ym Mehefin 2016. Roedd yn Aelod Senedd Ewrop dros Gymru am bum mlynedd (1999-2004).

Roedd hefyd yn aelod o fwrdd Parc Cenedlaethol, yn Gadeirydd ar Bwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd ac yn gyfarwyddwr i Antur Waunfawr.

Bywyd personolGolygu

Roedd yn briod a Gillian Wyn ac roedd ganddynt ddau o blant, Euros a Bethan. Roedd yn ewythr i Rhys a Llŷr Ifans.

Salwch a marwolaethGolygu

Bu'n dioddef o afiechyd Parkinsons am rhai blynyddoedd cyn ei farwolaeth. Yn dilyn damwain yn Mehefin 2019, cafodd ei gludo i'r adran trawma yn Stoke-on-Trent. Daeth yn ôl wedyn i Ysbyty Gwynedd cyn dod adref i'w gartref lle bu farw nos Fawrth, 25 Mehefin.[2]

CyfeiriadauGolygu