Gem fwrdd strategol ar gyfer dau i bedwar chwaraewr yw Blokus.[1] Cafodd ei dyfeisio gan Bernard Tavitian [2] a'i chyhoeddi gyntaf yn 2000 gan y cwmni Ffrengig Sekkoïa. Mae wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys gwobr Mensa Select a'r Teacher's Choice Award yn 2004. Gwerthwyd y gêm i Mattel yn 2009.

Blokus
Enghraifft o'r canlynolgêm bwrdd, game on cell board Edit this on Wikidata
CyhoeddwrSekkoïa Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Blwch y gêm fwrdd 'Blokus'

Mae'r gêm yn cael ei chwarae ar fwrdd sgwâr sydd wedi'i rannu'n 20 rhes a 20 colofn, gan roi cyfanswm o 400 o sgwariau. Mae cyfanswm o 84 darn yn y gêm, wedi'u trefnu yn 21 siâp i bob un o bedwar lliw: glas, melyn, coch a gwyrdd. Mae'r 21 o siapiau wedi'u seilio ar bolyominos rhydd o un i bum sgwâr (un monomino, un domino, dau tromino/triomino, pum tetromino, a 12 pentomino).

Siapiau'r 21 darn Blokus

Mae'r rheolau fel a ganlyn:[3]

  • Mae trefn chwarae wedi'i seilio ar liw y darnau: glas, melyn, coch, gwyrdd.
  • Gosodir y darn cyntaf o bob lliw yn un o bedair cornel y bwrdd. Rhaid gosod pob darn newydd fel ei fod yn cyffwrdd ag o leiaf un darn o'r un lliw, gyda dim ond cyswllt o un cornel i'r llall — ni all ymylon gyffwrdd. Fodd bynnag, caniateir i ymylon dau ddarn o liw gwahanol gyffwrdd.
  • Pan na all chwaraewr roi darn ar y bwrdd, mae'n ymatal, ac mae chwarae'n parhau fel arfer. Mae'r gêm yn dod i ben pan na all unrhyw un o'r chwaraewyr roi darn arall ar y bwrdd.

Pan fydd gêm yn dod i ben, mae'r sgôr yn seiliedig ar nifer y sgwariau sydd gan bob chwaraewr ar y bwrdd (ee mae tetromino werth 4 pwynt). Os bydd chwaraewr yn llwyddo i chwarae ei holl ddarnau, bydd yn cael sgôr bonws o 20 pwynt. Os mai monomino oedd y darn olaf a chwaraewyd, rhoir 15 pwynt.[3]

Mae rheolau blokus yn caniatáu ar gyfer gemau chwaraewr dau neu dri chwaraewr hefyd.[4] Mewn gemau dau chwaraewr, mae pob chwaraewr yn cymryd dau liw. Mewn gemau tri chwaraewr, naill ai mae un o'r chwaraewyr yn cymryd dau liw neu fel arall "mae'r darnau o'r pedwerydd lliw yn cael eu rhoi ar y bwrdd mewn ffordd nad yw'n strategol."[4]

Mae amrywiadau o'r gêm yn cynnwys:

  • Blokus Duo/Travel Blokus
  • Blokus Trigon
  • Blokus Giant
  • Blokus Junior
  • Rumis/Blokus 3D

Mae fersiynau cyfrifiadurol wedi'u creu hefyd, yn cynnwys Blokus World Tour (PC) a Blokus Portable: Steambot Championship (Playstation Portable).

Cyfeiriadau golygu

  1. [1] Archifwyd 2015-01-05 yn y Peiriant Wayback. Blokus : Official website
  2. Glenn, Joshua; Larsen, Elizabeth Foy (14 Hydref 2014). UNBORED Games: Serious Fun for Everyone. Bloomsbury Publishing. t. 28. ISBN 978-1-63286-046-0. Cyrchwyd 15 April 2015.
  3. 3.0 3.1 "Blokus : Official website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-27. Cyrchwyd 2019-06-10. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "rules" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  4. 4.0 4.1 "Blokus Rules". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-27. Cyrchwyd 2019-06-10.