Božena Němcová

Llenores ffuglen Tsiecaidd a chasglwr llên gwerin oedd Božena Němcová (ganed Barbora Panklová; 4 Chwefror 182021 Ionawr 1862) a flodeuai yn ystod yr adfywiad cenedlaethol yn llenyddiaeth Tsieceg.

Božena Němcová
Portread o Božena Němcová.
Ganwyd4 Chwefror 1820 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ionawr 1862 Edit this on Wikidata
Prag Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, golygydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Barbora Panklová yn Fienna, Ymerodraeth Awstria, i deulu o dras Tsiecaidd. Treuliodd ei phlentyndod yn y tiroedd Tsiec, a magwyd ynddi gariad dwfn o'r wlad a'i phobl. Priododd â swyddog yn y llywodraeth, a symudodd i Brag, gyda'i gŵr a'u plant, ym 1842. Daeth yn gyfarwydd â chylchoedd llenyddol y ddinas, gan gynnwys y bardd Václav Nebeský. Cyhoeddwyd ei cherdd gyntaf, "Ženám českým" ("I Ferched Tsiec"), yn y cyfnodolyn Květy ym 1843, ac mae'n debyg i Nebeský ei chynorthwyo gyda'r llinellau. Cyfansoddai Němcová naw cerdd arall cyn iddi benderfynu ym 1846 i roi'r gorau i farddoni a chanolbwyntio ar ryddiaith.[1]

Dechreuodd ysgrifennu Němcová chwedlau byrion, a fe'i hanogwyd i barhau gan yr arbenigwr llên gwerin Karel Jaromír Erben. Cyhoeddwyd cyfres o'i straeon gwerin mewn saith rhan rhwng 1845 a 1848, yn seiliedig ar y chwedlau a glywodd pan oedd yn ferch ifanc.[2] Symudodd Němcová a'i theulu i Domažlice yn ne-orllewin Bohemia ym 1845, ac yno cychwynnodd ar waith ethnograffig yng nghefn gwlad i gasglu rhagor o straeon.[3] Cyhoeddwyd ail argraffiad o'i chasgliad o straeon a chwedlau gwerin ym 1855–56, gyda straeon newydd ganddi.[4] Yn nechrau'r 1850au teithiodd i Slofacia, ac yno ymchwiliodd ymhellach i lên lafar y werin. Ffrwyth arall o'i theithiau oedd ei hatgof o grwydro Slofacia, a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn yr Amgueddfa Tsiec ym 1856. Němcová oedd yr awdur cyntaf o'i hoes i foli tirwedd Mynyddoedd Carpathia yn ei gwaith, elfen ddaearyddol a fyddai'n dal meddwl cenedlaetholwyr Rhamantaidd Tsiecaidd (a Tsiecoslofacaidd), ac hefyd y cyntaf i ysgrifennu yn Tsieceg am arwyr gwerin a banditiaid enwog Slofacia, gan gynnwys y lleidr pen ffordd Juraj Jánošík. Cyhoeddodd gasgliad o straeon a chwedlau gwerin y Slofaciaid, a chasglodd hefyd ganeuon a thraddodiadau priodas ac esiampl o ddrama'r Nadolig. Bu Němcová felly yn gymaint o arloeswraig yn astudiaethau llên gwerin yn Slofacia ag yn ei mamwlad, Tsiecia.[5]

Campwaith Němcová ydy'r nofel Babička ("Y Fam-gu"; 1855). Nodweddir ei ffuglen gan bortreadau byw o gefn gwlad y tiroedd Tsiec, cymeriadau lliwgar, a chysylltiad dwfn â diwylliant gwerin y Tsieciaid.

Cyfeiriadau golygu

  1. Milada Součkova, The Czech Romantics (Den Haag: Mouton & Co., 1958), tt. 131–32.
  2. Součkova, The Czech Romantics (1958), t. 132.
  3. Součkova, The Czech Romantics (1958), t. 139.
  4. Součkova, The Czech Romantics (1958), t. 134.
  5. Součkova, The Czech Romantics (1958), tt. 134–35.