Bob y Bildar

cyfres deledu


Sioe deledu animeiddiedig i blant ym Mhrydain yw Bob y Bildar, a grëwyd gan Keith Chapman (yr un peth a Ffi-Ffi a'i Ffrindiau a Patrôl Pawennau). Yn y gyfres wreiddiol, mae Bob yn ymddangos mewn symudiad stop sydd wedi cael ei animeiddio fel contractwr adeiladu, yn arbenigo mewn gwaith maen, ynghyd â'i gydweithiwr Wendy, cymdogion a'i ffrindiau amrywiol gyda'i gang o gerbydau ac offer. Darlledir y sioe mewn sawl gwlad, ond mae'n cael ei dargedu yn bennaf ar gyfer yr Deyrnas Unedig lle mae Bob yn cael ei leisio gan yr actor Seisnig, Neil Morrissey. Cafodd y sioe ei chreu'n ddiweddarach gan ddefnyddio animeiddiad CGI gan ddechrau gyda'r gyfres 'SPIN-off Ready, Steady, build!'.

Bob y Bildar
Enghraifft o'r canlynolanimeiddiad o glai, cyfres deledu animeiddiedig, stop-motion animated television program, ffilm wedi'i hanimeiddio gan gyfrifiadur Edit this on Wikidata
CrëwrKeith Chapman Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dechreuwyd12 Ebrill 1999 Edit this on Wikidata
Daeth i ben31 Rhagfyr 2011 Edit this on Wikidata
Genrecyfres deledu comig, cyfres deledu i blant, comedi Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af28 Tachwedd 1998 Edit this on Wikidata
Hyd10 munud Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuBBC Edit this on Wikidata
DosbarthyddBBC Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata[1]
Gwefanhttp://www.bobthebuilder.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Strwythr golygu

Ym mhob pennod, mae Bob a'i grŵp yn helpu gydag adnewyddu, adeiladu, ac atgyweirio a gyda phrosiectau eraill pan mae angen. Mae'r sioe yn pwysleisio ar ddatrys gwrthdaro, cydweithredu, cymdeithasu a defnyddio sgiliau dysgu amrywiol. Arwyddair Bob yw "allwn ni ei ddrwsio? ", ac mae'r cymeriadau eraill yn ymateb gyda "ia gallwn! " Mae'r ymadrodd hwn hefyd yn deitl i gân thema'r sioe, oedd yn un a gafodd filiwn o werthiant yn y DU.

Ym mis Hydref 2014, ailwampwyd Bob the Bildar gan Mattel ar gyfer yr cyfres newydd Milkshake ar Channel 5! Yn 2015 ymhlith y newidiadau, ailwampiodd y cast yn llwyr, gyda'r actor Lee Ingleby yn cymryd lle Neil Morrissey, fel llais Bob.

Bob y Bildar yn y Gymraeg golygu

Darlledir fersiwn Gymraeg o Bob y Bildar fel rhan o raglenni Cyw ar S4C.[2] Gellir hefyd prynu penodau o'r gyfres ar DVD drwy Recordiau Sain.[3]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.fernsehserien.de/bob-der-baumeister. dyddiad cyrchiad: 7 Gorffennaf 2020. dynodwr fernsehserien.de: bob-der-baumeister.
  2. https://www.bbc.co.uk/schedules/p020dmkf/2015/03/21
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-08. Cyrchwyd 2019-01-17.