Mae Bochotnica [bɔxɔtˈnit͡sa] yn bentref o fewn rhanbarth weinyddol Gmina Kazimierz Dolny yn nwyrain Gwlad Pwyl, rhwng Puławy a Lublin, ger Kazimierz Dolny, ar Afon Wisła. Saif 42 km i'r gorllewin o Lublin.[1] Mae'n ganolfan cymuned ar wahan o fewn Swydd Puławy. Yn 2010 roedd y boblogaeth yn 1,500.[2]

Bochotnica
Pentref
Adfeilion castell yn Bochotnica
Adfeilion castell yn Bochotnica
Gwlad Gwlad Pwyl
VoivodeshipLublin
PowiatPuławy
GminaKazimierz Dolny
Poblogaeth 1,000

Saif adfeilion castell o'r 14g gerllaw.

Arferwyd galw'r pentref yn Bochotnica Mała (er mwyn gwahaniaethu rhyngddo â Bochotnica-Kolonia, neu Bochotnica Wielka sydd gerllaw), ac mae'n un o drefanau hynaf Pwyl Leiaf. Arferai fod yn fan pwysig o ran marchnata nwyddau, ond mae bellach yn atyniad hanesyddol i ymwelwyr ac oherwydd ei fod yn agos i Ddyffryn Vistula a Pharc Kazimierz. Mae'r orsaf reilffordd agosaf yn Puławy.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Central Statistical Office (GUS) - TERYT (National Register of Territorial Land Apportionment Journal)". 2008-06-01.
  2. Edward Piwowarek: Bochotnica w obiektywie - przyczynek do refleksji. Kazimierz: Kazimierski Ośrodek Kultury, 2010