Lublin
Dinas yn nwyrain Gwlad Pwyl a phrifddinas województwo (foifodiaeth) Lubelskie yw Lublin. Saif ar Afon Bystrzyca, ac yn hanesyddol bu'n bwysig oherwydd ei safle rhwng dwy ddinas fwyaf Gwlad Pwyl—Warsaw a Kraków—a Rwsia i'r dwyrain.
![]() | |
![]() | |
Math | dinas gyda grymoedd powiat, dinas, dinas fawr ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 334,681 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Krzysztof Żuk ![]() |
Cylchfa amser | CEST, UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Ivano-Frankivsk, Lutsk, Viseu, Rivne, Sumy, Hakkâri, Debrecen, Delmenhorst, Rishon LeZion, Nykøbing Falster, Tilburg, Luhansk, Starobilsk, Erie, Pernik, Alcalá de Henares, Brest, Lviv, Nancy, Panevėžys, Tilburg, Anápolis, Granada, Jiaozuo, Caerhirfryn, Münster, Nilüfer, Novi Sad, Omsk, Ramallah, Tbilisi, Windsor, Vinnytsia, Timișoara, Panevėžys City Municipality, Mykolaiv, Kryvyi Rih ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Lublin Voivodeship ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 147.5 km² ![]() |
Uwch y môr | 163 ±1 metr ![]() |
Gerllaw | Bystrzyca ![]() |
Cyfesurynnau | 51.25°N 22.5667°E ![]() |
Cod post | 20-001–20-999 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Krzysztof Żuk ![]() |
![]() | |
Sefydlwyd cadarnle yma gan y Lędzianie, un o'r llwythau Lechitig, yn niwedd y 9fed ganrif. Codwyd y castell yn y 14eg ganrif, a derbyniodd ei breintiau dinesig ym 1317. Datblygodd Lublin fel tref fasnachol ar hyd y ffordd rhwng Gwlad Pwyl a'r Wcráin, a bu'n fan gyfarfod rhwng Teyrnas Gwlad Pwyl ac Uchel Ddugiaeth Lithwania. Yng Ngorffennaf 1569 cytunwyd ar delerau Undeb Lublin i uno'r ddwy wlad ar ffurf y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd a fe'i arwyddwyd yng Nghastell Lublin. Cyrhaeddodd ei hanterth economaidd yn y cyfnod hwn a bu'n enwog am ei ffeiriau masnachol yn yr 16g a'r 17g. Yn sgil trydydd raniad Gwlad Pwyl ym 1795, daeth Lublin a Kraków dan reolaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ar ffurf Gorllewin Galisia, tiriogaeth a unwyd â Theyrnas Galisia a Lodomeria ym 1803. Yn sgil Cyngres Fienna ym 1815 daeth Lublin a'r cyrion dan ben-arglwyddiaeth Ymerodraeth Rwsia fel rhan o Wlad Pwyl y Gyngres.
Ar 5 Tachwedd 1918, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, datganwyd Sofiet Dirprwyon y Gweithwyr yn Lublin, y llywodraeth annibynnol gyntaf a fyddai'n datblygu yn Weriniaeth Gwlad Pwyl. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan oedd Gwlad Pwyl dan feddiannaeth yr Almaen Natsïaidd, codwyd gwersyll crynhoi a difa Majdanek yn ne-ddwyrain Lublin ym 1941, ac yno llofruddiwyd rhyw 78,000 o bobl, 59,000 ohonynt yn Iddewon, yn y cyfnod o Hydref 1941 i Orffennaf 1944. Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, Lublin oedd safle dros dro y Pwyllgor Rhyddid Cenedlaethol Pwylaidd, a elwir hefyd yn Bwyllgor Lublin, cyn i'r llywodraeth genedlaethol symud i Warsaw.
Lublin yw canolfan ddiwydiannol de-ddwyrain Gwlad Pwyl, ac mae ei diwydiannau yn cynnwys peiriannau ffermio, tecstilau, nwyddau trydanol, cemegion, ceir a lorïau, siwgr, a chwrw. Lleolir pum sefydliad addysg uwch cyhoeddus yn y ddinas: Prifysgol Marie Curie-Skłodowska, Prifysgol Gatholig Ioan Pawl II, y Brifysgol Feddygol, Prifysgol y Gwyddorau Bywyd, a'r Coleg Polytechnig. Gostyngodd y boblogaeth o 353,000 ym 1996 i 349,000 yn 2011,[1] ac i 339,000 yn 2021.
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ (Saesneg) Lublin. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Hydref 2021.