Bois y Fro
Pedwarawd lleisiol o ardal Aberystwyth yw Bois y Fro.
Maent yn canu amryw o arddulliau, yn glasurol, yn werin, hen ganiadau a barbershop hefyd caneuon ysgafn a sioeau cerdd Saesneg.
Maent yn perfformio mewn nosweithiau cymdeithasol a phriodasau ac wedi ymddangos ar raglen Heno ar S4C.
Yn 2016 perfformiwyd fersiwn arbennig ganddynt a fideo o'r gân "Can't take my Eyes off You" gan Frankie Valli, arwyddgan cefnogwyr tîm pêl-droed Cymru ar gyfer cwpan Euro2016 lle roedd Cymru yn cystadlu.
Yn Rhagfyr 2016 ymddangosodd Bois y Fro ar raglen Heno. Canwyd y garol "Daeth Nadolig".[1]
Yn 2017 rhyddhawyd CD ganddynt o'r enw Bois y Fro ar label Recordiau Sain. Ceir rhestr o ganeuon Bois y Fro sy'n cynnwys clipiau 30 eiliad o'r caneuon oddi ar y CD .
Aelodau Bois y Fro
golyguGan rifo o'r chwith i'r dde yn y ffotograff, gydag 1 ar y chwith pellaf:
- Efan Miles Williams - tenor (2)
- Gregory Vearey Roberts - tenor (1)
- Siôn England - baritôn (4)
- Barry Powell - bâs (5)
- Manon Fflur Jones(3)
Disgograffi
golygu- Bois y Fro - Recordiau Sain (Sain SCD2762, 2017) https://www.sainwales.com/store/sain/sain-scd2762[dolen farw]
Dolenni
golygu- Bois y Fro ar Facebook
- Bois y Fro ar Twitter