Gwefan rwydweithio cymdeithasol a meicro-flogio yw X, a adnabuwyd yn flaenorol fel Twitter[1] (weithiau Trydar mewn Cymraeg answyddogol). Mae'n caniatau defnyddwyr anfon a darllen negeseuon defnyddwyr eraill (a elwir yn tweets yn y Saesneg), a phostio lluniau/fideos. Arddangosir y negeseuon ar dudalen broffil yr awdur a chânt eu dosbarthu i danysgrifwyr yr awdur a elwir yn ddilynwyr.
Enghraifft o'r canlynol | gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, meicroflogio, user-generated content platform, cymuned arlein, very large online platform, sefydliad |
---|---|
Crëwr | Jack Dorsey |
Cyhoeddwr | X Corp. |
Iaith | ieithoedd lluosog |
Dechrau/Sefydlu | 21 Mawrth 2006 |
Perchennog | X Corp. |
Prif weithredwr | Linda Yaccarino |
Gweithredwr | X Corp. |
Sylfaenydd | Jack Dorsey, Noah Glass, Biz Stone, Evan Williams |
Pencadlys | San Francisco |
Enw brodorol | X |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Dosbarthydd | Microsoft Store |
Gwefan | https://x.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguErs i'r gwasanaeth gael ei greu yn 2006 gan Jack Dorsey, daeth Twitter yn wasanaeth poblogaidd a dylanwadol, er fod nifer y defnyddwyr yn llai na gwasanaethau cyfatebol fel Facebook a Instagram. Weithiau caiff ei ddisgrifio fel "negeseuon testun y rhyngrwyd".[2]
Ar y cychwyn roedd cyfyngiad o 140 nod neu lai i bob neges, er mwyn cymhathu gyda negeseuon SMS - fe ehangwyd hyn i 280 nod yn 2017. Mae'r gwasanaeth sylfaenol am ddim ac yn cynnwys hysbysebion o fewn y ffrwd negeseuon. Ers 2021 gall defnyddwyr dalu tanysgrifiad i cael nodweddion uwch yn cynnwys postio negeseuon hyd at 4000 nod. Gall yr awdur gyfyngu ar bwy sy'n gweld ei negeseuon, neu gall ganiatáu i bawb eu gweld. Ers diwedd 2009, gall defnyddwyr ddilyn rhestrau o awduron yn hytrach na dilyn awduron unigol.[3] Gall defnyddiwr bostio drwy wefan Twitter, yr ap swyddogol ar ddyfeisiau symudol a Tweetdeck. Diddymwyd y dull negeseuon testun yn 2020.
Prynwyd y cwmni gan Elon Musk yn Hydref 2022 am $44 biliwn.[4] Ers hynny gwnaed nifer o benderfyniadau dadleuol gan Musk yn cynnwys diswyddo canran sylweddol o'r staff er mwyn arbed arian.[5] Yn ogystal, tynnwyd mynediad am ddim i API Twitter, gan orfodi pob ap allanol i gau lawr. Yng Ngorffennaf 2023 cychwynodd y gwaith o ail-frandio y gwasanaeth fel X.[1]
Hashnod
golyguFe wnaeth Twitter boblogeiddio'r arfer o roi hashnod cyn gair neu dalfyriad er mwyn creu cymuned o ddiddordeb o gylch pwnc neu ddigwyddiad benodol. Mae'r defnydd o'r hashnod hefyd wedi ei ddefnyddio i boblogeiddio ymgyrchoedd gwleidyddol yn ogysal â hybu busnes. Nid oes modd defnyddio marciau atalnodi fel symbolau yr ebychnod fel rhan o'r gair yn yr hashnod.
Cyfrifon Cymraeg
golyguMae gan Wici Cymru gyfri trydar (@WiciCymru) sy'n ymgyrchu dros ryddhau gwybodaeth ar drwydded agored ac yn cefnogi prosiect Wicimedia, gan gynnwys y Wicipedia. Ceir hefyd @Wicipedia - sy'n drydariad awtomatig, sy'n hysbysu ei ddilynwyr o erthyglau newydd.
Yn y Gymraeg, yr hashnod gyson mwyaf poblogaidd ei ddefnydd yw hashnod #yagym ('Yr Awr Gymraeg') a weinyddir gan gyfrif @YrAwrGymraeg gan Huw Marshall.
Gweler hefyd
golyguFfynonellau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Binder, Matt (July 24, 2023). "Twitter's rebrand to X has its website looking like a mess". Mashable SEA (yn Saesneg). Cyrchwyd July 27, 2023.
- ↑ Swine flu's tweet tweet causes online flutter 29 Ebrill 2009. Leslie D'Monte. Business Standard. Adalwyd ar 29 Mai 2009
- ↑ There's a List for That blog.twitter.com. 30 Hydref 2009. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010
- ↑ "Elon Musk takes control of Twitter in $44bn deal". BBC News (yn Saesneg). 2022-10-28. Cyrchwyd 2023-08-02.
- ↑ https://www.facebook.com/bbcnews (2022-11-04). "Twitter latest news: Twitter sackings begin as Elon Musk seeks to cut costs". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-08-02.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Twitter
- Umap Cymraeg Archifwyd 2011-08-24 yn y Peiriant Wayback Hidlydd sy'n casglu ac arddangos trydariadau Cymraeg yn unig
- Indigenous Tweets Hidlydd sy'n dilyn y defnydd o ieithoedd lleiafrifol ar Twitter