Boléro
Mae'r erthygl hon yn sôn am waith cerddorol gan Ravel.
Enghraifft o'r canlynol | ballet, gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
---|---|
Label brodorol | Bolero |
Dyddiad cyhoeddi | 1929 |
Dechrau/Sefydlu | 1928 |
Genre | bolero |
Enw brodorol | Bolero |
Cyfansoddwr | Maurice Ravel |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Maurice Ravel yw cyfansoddwr Boléro. Mae'r darn yn adnabyddus iawn; cafodd ei gyfansoddi fel ballet yn wreiddiol a hynny yn 1928 ar gyfer cerddorfa. Disgrifiai Ravel y darn fel darn dibwys a dywedai ei fod fel 'darn i geddorfa heb gerddoriaeth'.
Ar wahân i ddau neu dri darn bychan arall o waith (megis y Don Quichotte à Dulcinée), dyma oedd gwaith olaf y cyfansoddwr cyn iddo ymddeol oherwydd gwaeledd.
Comisiwn oedd y darn hwn o waith gan Ida Rubenstein, ar gyfer y piano ac yn un o chwe darn comisiwn. Ar ei wyliau yn St Jean-de-Luz oedd Ravel pan sgwennodd y darn. Chwaraeodd y darn i'w gyfaill Gustave Samazeuilh gydag un bys ar y piano gan ddweud wrtho, 'Yn dydy'r dôn yma'n swnio'n hyfryd? Dwi am ailadrodd yr alaw yma drosodd a throsodd.' Galwodd y darn yn Fandango.
Dolen allanol
golygu- Disgograffi Archifwyd 2008-10-19 yn y Peiriant Wayback