Bondiau Premiwm
Cynllun cynilo a drefnir gan lywodraeth y Deyrnas Unedig yw Bondiau Premiwm. Cyflwynwyd y cynllun yn 1956 . Fe’i rheolir gan Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol.
Enghraifft o'r canlynol | bond loteri |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn lle talu llog ar arian a fuddsoddir, trefnir y cynllun fel loteri. Mewn loteri arferol gwerthir tocynnau â rhif. Ar ddyddiad penodol dewisir y rhifau buddugol. Bydd tocynnau buddugol yn derbyn gwobr ond bydd prynwyr tocynnau aflwyddiannus yn colli eu harian. Mewn cyferbyniad, yn y cynllun Bondiau Premiwm nid yw pris prynu tocynnau (y bondiau) byth yn cael ei golli. Bob mis mae rhifau yn rhoi mewn loteri; mae bondiau buddugol yn cael gwobr ariannol yn rhydd o dreth, ond bydd y bondiau aflwyddiannus yn parhau yn y cynllun ac yn mynd ymlaen i loteri'r mis canlynol. Gellir cyfnewid bondiau am eu pris prynu ar unrhyw adeg.
Gwerth y bondiau yw £1 yr un. Y gwerth lleiaf y gellir ei brynu yw £25. Y gwerth mwyaf yw £50,000. Mae'r gwobrau'n amrywio o £25 i £1,000,000. Ym mis Rhagfyr 2024 mae'r ods o fond o £1 yn ennill gwobr mewn mis penodol yn 22,000 i 1. Mae'r llywodraeth yn talu llog i'r gronfa fondiau (4.15% y flwyddyn ym mis Rhagfyr 2024 ond yn gostwng i 4% ym mis Ionawr 2025).
Mae rhifau'n cael eu dewis ar hap gan beiriant o'r enw ERNIE, acronym ar gyfer "Electronic Random Number Indicator Equipment".