Border Country

nofel gan Raymond Williams

Nofel 1960 gan Raymond Williams yw Border Country.

Border Country
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
GolygyddDai Smith
AwdurRaymond Williams
CyhoeddwrParthian Books
GwladCymru
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddi1960 Edit this on Wikidata
Argaeleddmewn print.
ISBN9781909844230
GenreNofel Saesneg
CyfresLibrary of Wales
Olynwyd ganSecond Generation Edit this on Wikidata

Lleolir yn Ne Cymru gwledig, yn agos i'r ffin â Lloegr. Pan gaiff y gŵr rheilffordd Harry Price strôc sydyn daw ei fab Matthew, sy'n ddarlithydd yn Llundain, 'nôl i Glynmawr ar y gororau. Wrth i Matthew a Harry ymgodymu â'u hatgofion o newidiadau cymdeithasol a phersonol, meithrinnir cwlwm o gariad agos rhwng y tad a'r mab.[1] Mae ôl-fflachiau aml i'r 1920au a'r 1930au, gan gynnwys y Streic Gyffredinol yn 1926. Trwy ffuglen, mae gan y nofel nifer o bwyntiau sy'n gyffredin â cefndir Raymond Williams ei hun.

Ail-gyhoeddwyd y nofel ym mis Rhagfyr 2005 fel rhan o grŵp o deitlau yng nghyfres Library of Wales, ar ôl bod allan o argraffiad am nifer o flynyddoedd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 28 Mehefin, 2013

Llyfryddiaeth

golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.