Boys Don't Cry (ffilm)
Mae Boys Don't Cry (1999) yn ffilm ddrama annibynnol sy'n seiliedig ar hanes bywyd Brandon Teena, dyn trawsrywiol a dreisiwyd ac a lofruddiwyd ar y 31ain o Ragfyr, 1993 wedi i'w gyfeillion gwrywaidd ddarganfod fod ganddo organau rhywiol benywaidd. Mae'r ffilm yn serennu Hilary Swank fel Brandon Teena a Chloë Sevigny fel cariad Brandon Lana Tisdel.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Kimberly Peirce |
Cynhyrchydd | Christine Vachon Eva Kolodner |
Ysgrifennwr | Kimberly Peirce Andy Bienen |
Serennu | Hilary Swank Chloë Sevigny Peter Sarsgaard Brendan Sexton III |
Cerddoriaeth | Nathan Larson |
Sinematograffeg | Jim Denault |
Golygydd | Tracy Granger |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | IFC Films Fox Searchlight Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 22 Hydref, 1999 |
Amser rhedeg | 118 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Gwefan swyddogol | |
Derbyniodd Boys Don’t Cry, ac yn benodol perfformiadau Swank a Sevigny ymateb hynod gadarnhaol gan y beirniaid ffilm, yn enwedig o ystyried fod y ffilm wedi cael ei gwneud ar gyllid cymharol fychan. Serch hynny, bu'r ffilm yn llwyddiant masnachol, ac enillodd Swank Wobr yr Academi am yr Actores Orau am yr Actores Orau ac enwebwyd Sevigny am Wobr yr Academi am yr Actores Gefnogol Orau.
Lleolir y ffilm yn Lincoln, Nebraska ac yn Ninas Falls, Nebraska, ond cafodd ei ffilmio'n bennaf yng Greenville, Texas, tref fechan tua 45 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Dallas. Rhyddhawyd y ffilm ar yr un pryd â marwolaeth dyn hoyw ifanc, Matthew Shepard, ac arweiniodd hyn at fwy o ddiddordeb yn y ffilm.
Cast
golygu- Hilary Swank fel Brandon Teena / Teena Brandon
- Chloë Sevigny fefelJohn Lotter
- Brendan Sexton III fel Tom Nissen
- Alicia Goranson fel Candace
- Alison Folland fel Kate
- Jeannetta Arnette fel Mrs. Tisdel
- Rob Campbell fel Brian
- Matt McGrath fel Lonny
Trac Sain
golyguRhyddhawyd y trac sain ar yr 11eg o Dachwedd, 199 gan Koch Records.
- The Bluest Eyes in Texas - Nina Person / Nathan Larson
- A New Shade of Blue - The Bobby Fuller Four
- She's Got a Way - The Smithereens
- Who's That Lady? - The Isley Brothers
- Codine Blues - The Charlatans
- Silver Wings - The Knitters
- Who Do You Love - Quicksilver Messenger Service
- Tuesday's Gone - Lynyrd Skynyrd
- Haunt - Roky Erickson
- Dustless Highway - Nathan Larson
- What's Up With That? - The Dictators
- Why Can't We Live Together? - Timmy Thomas