Brendan Sexton III

actor a aned yn 1980

Mae Brendan Eugene Sexton III (ganed 21 Chwefror 1980) yn actor Americanaidd.

Brendan Sexton III
Ganwyd21 Chwefror 1980 Edit this on Wikidata
Ynys Staten Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor teledu, actor ffilm Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Sexton yn Ynys Staten, Dinas Efrog Newydd. Roedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Hunter. Ei dad oedd comisiynydd sbwriel Dinas Efrog Newydd ar ddiwedd y 1980au.

Gyrfa golygu

Ymddangosodd Sexton yn ei ffilm gyntaf, Welcome to the Dollhouse gan Todd Solondz lle chwaraeoedd y bwli Brandon McCarthy. Derbyniodd enwebiad am Wobr Independent Spirit am ei berfformiad. Chwaraeodd y brif rhannau yn Hurricane Streets a Desert Blue ac ymddangosodd hefyd yn y ffilmiau Boys Don't Cry, Black Hawk Down, a Just Like the Son, yn ogystal â ffilmiau cwlt fel Empire Records a Pecker. Yn fwy diweddar, serennodd yn The Marconi Bros. ynghyd â Dan Fogler ac yn Let Them Chirp Awhile gyda Justin Rice.

Mae ef hefyd yn berchen ar label recordio o'r enw Big Bit Of Beauty sydd wedi'i leoli yn Ninas Efrog Newydd.