Brandi Carlile

cyfansoddwr a aned yn 1981

Mae Brandi M. Carlile (ganwyd 1 Mehefin 1981) yn gantores-gyfansoddwraig roc-gwerin Americanaidd sydd wedi'i henwebu am wobrau Grammy.[1] Hyd at 2020 mae Carlile wedi rhyddhau chwe albwm stiwdio ac wedi derbyn deuddeg enwebiad Grammy – un am The Firewatcher's Daughter, chwech am By The Way, I Forgive You, dau am ei gwaith fel cynhyrchydd ar albwm While I'm Livin gan Tanya Tucker, un am y gân "Crowded Table" gyda The Highwomen ac un am y gân "Carried Me With You" o'r ffilm Onward. O'r deuddeg mae wedi ennill 6.[2] Hi oedd y fenyw i dderbyn y nifer mwyaf o enwebiadau yng ngwobrau Grammys 2019, derbyniodd chwe enwebiad gan gynnwys Albwm y flwyddyn (By The Way, I Forgive You), record y flwyddyn a chân y flwyddyn ("The Joke").

Brandi Carlile
GanwydBrandi Marie Carlile Edit this on Wikidata
1 Mehefin 1981 Edit this on Wikidata
Ravensdale Edit this on Wikidata
Label recordioColumbia Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Tahoma Senior High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, canwr, artist stryd, cerddor, cyfansoddwr, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddullroc poblogaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auAmericana Award for Artist of the Year, Out100, Gwobr Grammy am yr Albwm Gorau o America, Grammy Award for Best American Roots Performance, Grammy Award for Best American Roots Song, Grammy Award for Best Country Song, Grammy Award for Best Country Song, Gwobr Grammy am yr Albwm Gorau o America, Grammy Award for Best Rock Performance, Gwobr Gammy am y Gân Roc Orau, 1st Children's and Family Emmy Awards, CMT Music Awards, Billboard Women in Music, Americana Music Honors & Awards Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.brandicarlile.com/ Edit this on Wikidata

Cafodd ei halbwm cyntaf Brandi Carlile dderbyniad gwresog, ond ni chafodd lawer o lwyddiant masnachol. Yn 2007 enillodd Carlile lwyddiant gyda'i sengl "The Story" oddi ar yr albwm â'r un enw. Fe gafodd The Story statws aur yn 2017, gan iddo werthu 500,000 o gopiau hyd yma.[3] Albwm mwyaf llwyddiannus Carlile hyd yma yw By The Way, I Forgive You - cafodd ei enwebu am chwe gwobr Grammy yn 2019 gan gyrraedd rhif 5 ar siart Billboard 200.[4]

Fe'i ganed yn Ravensdale, Washington (talaith) Washington yn yr UDA. Ni orffenodd ei haddysg uwchradd, ond yn hytrach gadawodd i ddilyn gyrfa gerddorol. Fe ddysgodd ei hun i ganu'r gitâr a'r piano.

Mae'n aelod o'r grŵp The Highwomen[5].

Ym mis Ebrill 2021 cyhoeddodd Carlile ei hunangofiant cyntaf, Broken Horses: A Memoir. Aeth yn syth. i #1 ar restr gwerthwyr gorau y New York Times.[6]

Disgyddiaeth golygu

Albymau Stiwdio

  • Brandi Carlile (2005)
  • The Story (2007)
  • Give Up The Ghost (2009)
  • Bear Creek (2012)
  • The Firewatcher's Daughter (2015)
  • By The Way, I Forgive You (2018)
  • In These Silent Days (2021)

gyda The Highwomen

  • The Highwomen (2019)

Arall

  • Live at Benaroya Hall with the Seattle Symphony (2011)
  • Cover Stories (2017)

Ym Mai 2017, fe ryddhaodd Carlile Cover Stories, Brandi Carlile Celebrates 10 Years of The Story, An Album to Benefit War Child lle benthycodd 14 o artistiaid eu doniau i ailrecordio'r traciau oddi ar yr albwm The Story. Ymhlith yr artistiaid oedd Adele, Pearl Jam a Dolly Parton. Cafwyd rhagair i'r record gan yr Arlywydd Barack Obama.[7]

Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddodd y bydd ei seithfed albwm stiwdio, In These Silent Days, yn cael ei ryddhau ym mis Hydref 2021.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Junior, Chris M. (2011-09-10). "Medleyville: Q&A: BRANDI CARLILE". Medleyville.us.
  2. "Brandi Carlile". GRAMMY.com (yn Saesneg). 2021-04-22. Cyrchwyd 2021-07-24.
  3. Demming, Mark (2015-04-02). "Brandi Carlile – Biography | Billboard". billboard.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-05.
  4. "Grammy nominations: Brandi Carlile makes cut; Kendrick Lamar tops list". The Seattle Times. December 7, 2015.
  5. "The Highwomen". thehighwomen.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-24.
  6. "Best Sellers - Books - April 25, 2021 - The New York Times". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-07-24.
  7. Kreps, Daniel; Kreps, Daniel (2017-02-21). "Brandi Carlile Enlists Pearl Jam, Adele, Jim James for 'Cover Stories'". Rolling Stone (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-24.
  8. Freeman, Jon; Freeman, Jon (2021-07-21). "Brandi Carlile Previews New Album With Cathartic Song 'Right on Time'". Rolling Stone (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-24.