Rhif Cyfres Safonol Rhyngwladol

rhif wyth digid unigryw a ddefnyddir i adnabod cyhoeddiad cyfnodol print neu electronig
(Ailgyfeiriad o ISSN (identifier))

Rhif cyfresol wyth digid yw Rhif Cyfres Safonol Rhyngwladol (ISSN) [1] a ddefnyddir i roi nod unigryw i gyhoeddiad cyfresol, fel cylchgrawn neu bapur newydd. [2] Mae'r ISSN yn arbennig o ddefnyddiol wrth wahaniaethu rhwng cylchgronau a phapurau sydd â'r un teitl. Defnyddir ISSNau wrth archebu, catalogio, benthyciadau rhyng lyfrgellol ac arferion eraill mewn cysylltiad â llenyddiaeth gyfresol. [3]

Rhif Cyfres Safonol Rhyngwladol
Enghraifft o'r canlynoldynodwr cyhoeddiad, cyfrwng cyfathrebu, safon technegol Edit this on Wikidata
MathEnw Adnodd Unffurf Edit this on Wikidata
Yn cynnwysRCSR cysylltiol Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.issn.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cafodd y system ISSN ei drafftio gyntaf fel safon ryngwladol y Sefydliad Safoni Rhyngwladol (ISO) ym 1971 a'i chyhoeddi fel ISO 3297 ym 1975. [4] Mae is-bwyllgor ISO TC 46 / SC 9 yn gyfrifol am gynnal y safon.

Pan gyhoeddir erthyglau cyfresol gyda'r un cynnwys mewn mwy nag un math o gyfrwng, rhoddir ISSN gwahanol i'r cyfryngau. Er enghraifft, cyhoeddir llawer o gyfresi mewn cyfryngau print ac electronig. Mae'r system ISSN yn cyfeirio at y mathau hyn fel ISSN print (p-ISSN) ac ISSN electronig (e-ISSN). O ganlyniad, fel y'i diffinnir yn ISO 3297: 2007, rhoddir ISSN (ISSN-L) i bob cyfres yn y system ISSN, yn nodweddiadol yr un peth â'r ISSN a neilltuwyd i'r gyfres yn ei gyfrwng cyhoeddedig cyntaf, sy'n cysylltu'r holl ISSNau a neilltuwyd i'r gyfres ym mhob cyfrwng. [5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Y Fasnach Lyfrau Ar-Lein - Welsh Book Trade Info - Rhif Cyfres Safonol Rhyngwladol (ISSN)". www.wbti.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-29. Cyrchwyd 2021-01-24.
  2. "What is an ISSN? | ISSN". www.issn.org. Cyrchwyd 2021-01-24.
  3. "Get an ISBN or ISSN for your publication". The British Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-26. Cyrchwyd 2021-01-24.
  4. "ISSN, a standardised code | ISSN". www.issn.org. Cyrchwyd 2021-01-24.
  5. "ISSN Manual | ISSN". www.issn.org. Cyrchwyd 2021-01-24.