Branwen Jarvis
Awdur o Gymraes
Awdur ac academydd o Gymraes yw Branwen Jarvis. Mae'n adnabyddus am y gyfrol Llinynnau - Detholiad o Ysgrifau Beirniadol a gyhoeddwyd 2 Chwefror 1999 gan: Gwasg Taf.[1]
Branwen Jarvis | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, academydd |
Roedd yn Bennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor hyd at 2003.
Yn Chwefror 2001, fe'i penodwyd i Gadair Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yn y brifysgol.[2] Ymddeolodd o'r swydd yn 2006.[3]
Mae hi'n un o bedwar plentyn i'r cenedlaetholwr a'r ymgyrchydd dros addysg Gymraeg, Trefor Morgan a Gwyneth a sefydlodd Ysgol Glyndŵr, ysgol breifat byr-hoedlog ger Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 1968-70 lle bu Branwen yn mynychu.[4]
Llyfryddiaeth
golygu- Llinynnau - Detholiad o Ysgrifau Beirniadol (Gwasg Taf, 1999)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 8 Chwefror 2015
- ↑ £1m o iawndal i filwr , BBC Cymru, 31 Ionawr 2001. Cyrchwyd ar 13 Medi 2018.
- ↑ Adran Gymraeg: 'Dwylo diogel' , BBC Cymru, 25 Ionawr 2006. Cyrchwyd ar 13 Medi 2018.
- ↑ Jobbins, Siôn T. (2011). Glyndŵr's School. The Phenomenon of Welshness II: or 'How many aircraft carriers would an independent Wales have?', Glyndŵr's School. Cyrchwyd 2022-02-19.