Trefor Richard Morgan
Cenedlaetholwr Cymreig ac ymgyrchydd oedd Trefor Richard Morgan, ar lafar, Trefor Morgan (28 Ionawr 1914 – 3 Ionawr 1970). Roedd yn ddyn busnes a sefydlodd gwmni yswiriant a gwnaeth lawer i sefydlu a chefnogi ysgolion ac addysg Gymraeg.
Trefor Richard Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 28 Ionawr 1914 Tonyrefail |
Bu farw | 3 Ionawr 1970 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr, glöwr |
Bywyd cynnar
golyguGaned Trefor Morgan yn nhref Tonyrefail, Sir Forgannwg, a bu iddo golli ei dad yn mhandemig ffliw 1918 (a elwir, yn gamarweiniol, yn 'Ffliw Sbaen') yn 1918. Enillodd le yn yr ysgol ramadeg ond bu'n rhaid iddo adael yn 14 oed er mwyn gweithio fel glöwr oherwydd y cynni yn ei deulu.[1] Erbyn canol yr 1940s, roedd yn gweithio fel ffarmwr.[2]
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd Morgan yn wrthwynebydd cydwybodol oherwydd ei ddaliadau genedlaetholgar Gymreig - fel sawl un arall gan gynnwys Gwynfor Evans ac ymgyrchydd breiniadol arall dros addysg Gymraeg ym Morgannwg, Gwyn M. Daniel. Yn 1941 carcharwyd Morgan a gŵr arall, Ted Merriman, am ddedfryd o ymddygiad sarhaus (insulting behaviour) wedi iddynt droi eu cefnau yn ystod chwarae God Save the King mewn digwyddiad yn Aberystwyth.[3] Priododd Trefor â Gwyneth Evans yn 1943.[1]
Ymgyrchu gwleidyddol
golyguDaeth Morgan yn weithgar ym Mhlaid Cymru. Safodd dros y Blaid yn Ogwr yn Etholiad Cyffredinol 1945 ac yn isetholiad Ogwr yn 1946. Roedd yn un o sylfaenwyr Mudiad Gweriniaethol Cymru, a sefydlwyd ym mis Medi 1949 wedi i wahaniaeth barn arwain i oddeutu 50 aelod o Blaid Cymru gerdded allan o gynhadledd y Blaid.[4] Yn Etholiad 1950 safodd fel ymgeisydd Cenedlaetholwr Annibynnol ym Merthyr Tudful. Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1955, safodd unwaith eto i Blaid Cymru ond y tro hwn yn Abertyleri ac yn Etholiadau Cyffredinol 1964 ac 1966 safodd yn etholaeth Brycheiniog a Maesyfed.[1]
Busnes ac addysg Gymraeg
golyguWedi methiant ym maes gwleidyddiaeth etholiadol, rhoddodd Morgan ei egni a ffocws tuag at hyrwyddo busnes annibynnol Gymreig. I'r perwyl yma sefydlodd gwmni yswiriant Cwmni Undeb yn Aberdâr. Addawodd y byddai unrhyw elw yn cael eu buddsoddi mewn diwydiannau Cymreig ac ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn dilyn hyn, sefydlodd ystâd ddiwydiannol i fusnesau â byd-olwg debyg yn Hirwaun, ac yn 1963 sefydlodd Gronfa Glyndwr yr Ysgolion Cymraeg - Cronfa Glyndŵr ar lafar a ddosbarthodd arian i rieni oedd yn dymuno addysg Gymraeg i'w plant.[5]
Yn 1968, sefydlodd Ysgol Glyndŵr ym Mhryntirion, Trelales ger Pen-y-bont ar Ogwr fel ysgol breswyl Gymraeg, ond bu iddo cau yn fuan wedi marwolaeth disymwth Morgan yn 1970.[6] Un o'r athrawon yn yr ysgol oedd y prifardd Gerallt Lloyd Owen a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1969 am ei gerdd enwog i Llywelyn ap Gruffudd, pan oedd yn athro yn Ysgol Glyndŵr.[7]
Personol
golyguBu farw ei weddw, Gwyneth yn 1998. Roedd ganddynt bedwar o blant.[1] gan gynnwys yr awdur, Branwen Jarvis.
Adnewyddwyd adfail ac enwyd y tŷ ar ei ôl yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn, Treforgan.[7] er cof am ei waith dros y Gymraeg a Chymru.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "Morgan, Trefor Richard". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 14 February 2016.
- ↑ "Welsh Nationalists' attack in Labour stronghold". Manchester Guardian. 3 June 1946.
- ↑ McAllister, Laura (2001). Plaid Cymru: The Emergence of a Political Party. Seren. t. 161. ISBN 9781854113108.
- ↑ "The Welsh Republican Movement". www.llgc.org.uk. National Library of Wales. Cyrchwyd 14 February 2016.
- ↑ James, Bryan (October 2014). "50 years on – and still the battle continues!". www.cronfaglyndwr.net. Ninnau, the North American Welsh Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-22. Cyrchwyd 14 February 2016.
- ↑ Williams, Iolo Wyn (2003). Our Children's Language: The Welsh-medium Schools of Wales 1939-2000. Cardiff: Y Lolfa. t. 72. ISBN 9780862437046.
- ↑ 7.0 7.1 Jobbins, Siôn T. (2011). Glyndŵr's School. The Phenomenon of Welshness: or 'How many aircraft carriers would an independent Wales have?', Glyndŵr's School. Cyrchwyd 2022-02-19.